Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Prentis Technegol (Pwyslais ar Sain) (Cytundeb Tymor Penodol - 12 Mis)
Cyflog: £13,741 (35 awr yr wythnos)
Dyddiad Cau: Wythnos yn cychwyn:
Dyddiad Cyfweld: Wythnos yn cychwyn:
Dyddiad Dechrau: Ebril 1af, 2025
*Ariennir y rôl hon gan Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n byw yn y fwrdeistref hon yn unig. Ni fydd unigolion sydd â gradd mewn pwnc cysylltiedig yn cael eu hystyried. *
Amdanom ni/Ein Hadran:
Fel un o leoliadau celfyddydol mwyaf eiconig a mwyaf adnabyddus y DU, mae rhan o’n llwyddiant yn deillio o’n hymrwymiad i roi cyfle i bobl ddatblygu a ffynnu.
Rydym yn gwneud hyn drwy gefnogi talent o Gymru sy’n dod i’r amlwg, gyda phrofiadau dysgu sy’n newid bywydau, gweithdai proffesiynol, a phrentisiaethau technegol. Mae gennym brentisiaid wedi’u lleoli yma yn y Ganolfan ar hyn o bryd, ond hefyd gyda sefydliadau partner ledled Cymru. Mae’r Prentis Technegol (gyda phwyslais ar Sain) yn rôl newydd a dyma’r cam cyntaf yn ein cynlluniau ar gyfer ehangu cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith mewn adrannau eraill yn y Ganolfan. Rydym yn gyffrous i gynnig prentisiaeth o fewn ein timau Celfyddydau a Chreadigol a Thechnegol, sy’n gyfrifol am ein Rhaglen Ieuenctid, Platfform, ein holl gynyrchiadau mewnol, ein gwaith digidol ac ymdrochol, ein harddangosfeydd a’n Rhaglen Gymunedol.
Mae ein Prentisiaid Technegol (Llwyfan) presennol wedi cwblhau lleoliadau yn ddiweddar gyda chynyrchiadau teithiol fel Wicked, ac wedi cefnogi nifer o sioeau a gynhyrchwyd yn fewnol fel Pontypool a The Nutcracker Cabaret. Bydd y Prentis Technegol yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau cymunedol dan arweiniad ieuenctid a digwyddiadau masnachol; megis Gŵyl Undod, Academi Next Up a Charnifal Trebiwt ond gallant hefyd gael cyfle i weithio ar y llwyfan ar gynyrchiadau teithiol a gwreiddiol o’r West End.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun prentisiaeth ewch i https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/ein-hadeilad-an-pobl/gyrfaoedd-a-swyddi/prentisiaethau-technegol
Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
*Ariennir y rôl hon gan Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n byw yn y fwrdeistref hon yn unig. Ni fydd unigolion sydd â gradd mewn pwnc cysylltiedig yn cael eu hystyried. *
Mae’r tîm Celfyddydau a Chreadigol ynghanol cyfnod datblygu cyffrous gyda lansiad ein gofodau Platfform newydd dan arweiniad pobl ifanc. Mae Platfform yn darparu mannau creadigol, perfformio a chymdeithasol o’r radd flaenaf i bobl ifanc greadigol ymgysylltu â CMC. Bydd pobl greadigol ifanc yn cael cyfle i ymarfer eu crefft ar y cyd ac yn rhagweithiol fel rhan o'u haelodaeth. Bydd y Prentis yn cydweithio â’r tîm Dysgu Creadigol ar ein Cynhyrchiad Academi Next Up a digwyddiadau eraill yn ystod y flwyddyn.
Bob blwyddyn rydym yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol a phobl greadigol i gynnal digwyddiadau, gweithdai, arddangosfeydd a pherfformiadau cymunedol o’r Ganolfan. Bydd y Prentis yma yn gweithio gyda'r tîm i gefnogi’r rhain.
Prif bwrpas y rôl hon yw datblygu sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy i'r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa, mewn meysydd sy'n benodol i gynllunio a chyflwyno cynyrchiadau a digwyddiadau byw, gydag elfen o grefft llwyfan technegol, goleuo a sain.
O ddydd i ddydd byddwch yn adrodd i’r Cydlynydd Prentisiaid a Hyfforddiant, sy'n goruchwylio'r rhaglen prentisiaid i sicrhau bod unigolion yn cyrraedd eu targedau ymarferol ac asesu. Mae'r cydlynydd hefyd yn gyfrifol am eich amserlen hyfforddiant proffesiynol a fydd yn cynnwys teithiau i ffwrdd o'r Ganolfan.
Dros y 12 mis, byddwch wedi cwblhau nifer o weithdai hyfforddi proffesiynol ac ardystiadau megis Gwobr Efydd ABTT ynghyd â chymhwyster Profion PAT a CRISP IOSH ymhlith eraill. Mae’n bosib y bydd cyfle i chi hefyd fynychu sioe fasnach yn y Gwanwyn/Haf. Er yn amodol ar amserlenni hyfforddi, dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl gweithio ar ddigwyddiadau fel Llais, Carnifal Trebiwt ac Academi Next Up yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau cymunedol ac ieuenctid.
Gofynion Allweddol:
Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael i gychwyn ar Ebrill 1af.
Mae oriau gwaith prentis yn amrywio ychydig o wythnos i wythnos, yn dibynnu ar ofynion y cynhyrchiad y maent yn gweithio arno. Rhaid pwysleisio nad rôl 9-5 yw hon, felly rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried o ddifrif a yw'r math hwn o waith yn addas ar eu cyfer pe bai gwrthdaro. Rydym hefyd yn eich annog i feddwl am eich trefniadau teithio ac a yw'n ymarferol/bosib i chi ar yr adeg hon.
Mae'r meini prawf y byddwn yn defnyddio i’ch gwerthuso yn gymharol hyblyg. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o'ch dealltwriaeth o theatr dechnegol cefn llwyfan a pha feysydd penodol sydd o ddiddordeb i chi a pham. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu dysgu neu ddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gan y byddwch yn gweithio mewn sefydliad mawr gyda phobl o wahanol gefndiroedd, safbwyntiau a hunaniaeth.
Yn olaf, dylech ddangos tystiolaeth o agwedd dda a pharodrwydd i weithio’n broffesiynol, dysgu sgiliau newydd, a dilyn gwaith cwrs.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser
- Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.