Rydyn ni’n chwilio am unigolyn profiadol a chreadigol i arwain portffolio newydd Ymddiriedolaeth y Theatrau, sef 'Partneriaethau a Dyngarwch'. Bydd yr unigolyn hwn yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu'r strategaeth sy'n cynhyrchu incwm i'r sefydliad.
Hyd yma, daw’r rhan fwyaf o’n hincwm o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau sy’n rhoi grantiau preifat – sydd ddim yn fodel cynaliadwy, fel y gwyddon ni. Rydyn ni, felly, yn chwilio am rywun sydd â syniadau newydd i symud ein golygon ac archwilio llwybrau newydd.
Mae’r swydd yn gyfle gwych i rywun sy’n hunanddechreuwr ac sy’n meddu ar agwedd feiddgar a’r hyder a ddaw o brofiad. Gan weithio gyda'n Prif Weithredwr newydd, cewch eich annog i ddod â'ch persbectif ffres a'ch profiad amrywiol i fynd â’r ffordd y mae Ymddiriedolaeth y Theatrau yn cynhyrchu incwm i'r lefel nesaf.