Mae’r gwneuthurwr a’r cynhyrchydd cerddoriaeth o Gymru sydd wedi ennill clod rhyngwladol, Novo Amor, heddiw wedi cyhoeddi lansiad Y Gronfa Birthplace - menter arloesol a ddarperir mewn partneriaeth â Beacons Cymru. Mae’r gronfa, sy’n dod i gyfanswm o £25,000, yw’r gyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn cael ei dosbarthu’n gyfartal ymhlith deg ymgeisydd llwyddiannus, gan ddarparu cymorth hollbwysig ac amserol ar gyfer eu dyfodol creadigol.
Nod y fenter hon yw rhyddhau crewyr, a rhoi’r amser a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i ganolbwyntio ar ddatblygu eu crefft a gwireddu eu potensial creadigol.
Rhoddir grantiau i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Prynu offer stiwdio.
- Defnyddio gwasanaethau stiwdio: megis cynhyrchu, cymysgu a mastering.
- Amser i ffwrdd o'r gwaith: galluogi artistiaid i neilltuo cyfnodau i ysgrifennu, ymarfer, recordio a chynhyrchu cerddoriaeth.
- Archwilio syniad creadigol: rhywbeth na fu'n bosibl o'r blaen.
- Costau i fentoriaid.
- Costau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill.
Mae cyllid wedi’i glustnodi’n benodol ar gyfer creu a chynhyrchu cerddoriaeth ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer:
- Costau teithiol.
- Nwyddau cyffredinol.
- Marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, neu weithgareddau plygio.
Mae’r Gronfa Birthplace yn agored i unigolion 18-35 oed sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd ceisiadau yn agor ar 2 Mehefin 2025, ac yn cau ar 10 Gorffennaf 2025, am 23:59. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail potensial eu cerddoriaeth, yr effaith bydd y gronfa hon yn ei chael ar eu bywyd, a pha mor briodol yw’r prosiect..
I WNEUD CAIS: www.beacons.cymru
Y pensaer y tu ôl i’r Gronfa Birthplace yw Ali Lacy, y cerddor o Gymru, Novo Amor a dywed,
“Rhoddodd cerddoriaeth ffordd i mi fynegi fy hun, i gysylltu â phobl, ac i adeiladu bywyd oedd yn teimlo'n driw i bwy ydw i. Mae wedi dod â llawenydd, pwrpas a chymuned i mi - ac rydw i eisiau i eraill gael yr un cyfle.
Creais y Gronfa Birthplace oherwydd rwy'n gwybod sut deimlad yw cael gwybod nad oes gennych chi botensial. Rwyf am helpu i newid hynny i eraill - i greu mwy o le ar gyfer creadigrwydd, cyfle, a chred, yma yng Nghymru.”
“Mae Beacons Cymru wrth ei bodd i fod yn bartner gyda Novo Amor ar y fenter bwysig hon”, ychwanegodd Spike Griffiths, Prif Weithredwr Beacons Cymru. “Mae cefnogi talent o Gymru wrth wraidd ein cenhadaeth, a bydd y Gronfa Birthplace yn ddi-os yn gwneud gwahaniaeth i yrfaoedd deg o grewyr cerddoriaeth Gymraeg”.
Dyma gronfa gyntaf o’i fath yng Nghymru, sy’n cynnig cymorth i unigolion i greu gyda rhyddid.
Novo Amor yw prosiect cerddorol yr aml-offerynnwr, cyfansoddwr, dylunydd sain, a chynhyrchydd Cymreig Ali Lacey. Yn adnabyddus am ei seinweddau hudolus a lleisiau emosiynol, mae Novo Amor wedi ennill clod rhyngwladol a sylfaen cefnogwyr byd-eang ymroddedig.
Mae Beacons Cymru yn sefydliad sy’n ymroddedig i gefnogi a datblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae'n darparu adnoddau, cyfleoedd, ac arweiniad i artistiaid, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a sefydliadau cerddoriaeth ledled y wlad.
Ceisiadau yn agor ar 10:00 ar fore dydd Llun 2 Mehefin 2025 a bydd yn cau am 23:59 ar ddydd Iau Gorffennaf 10fed 2025. I wneud cais ewch i www.beacons.cymru/birthplacefund