Rydym yn gwahodd ceisiadau am Ymddiriedolwyr ac Ymddiriedolwyr Ifanc.

Beth mae Ymddiriedolwr yn ei wneud? 
Yr Ymddiriedolwyr yw’r bobl sy’n eistedd ar y Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn grŵp o bobl sy’n cwrdd i roi cyngor ar bopeth mae MTW yn ei wneud ac yn rhannu cyfrifoldeb dros y cwmni, gan sicrhau ei fod yn cael ei reoli’n effeithiol ac effeithlon, mewn modd egwyddorol, teg a chynaliadwy. Gallai hyn olygu rhoi cyngor ar ddatblygu diwylliant a pholisi MTW, dylanwadu ar gynlluniau artistig neu strategol sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol, cefnogi rheolaeth ariannol a chynaliadwyedd y cwmni, cynghori ar farchnata a chyfathrebu – ac unrhyw beth arall y gallwch ei awgrymu! 

Arweinwyr Bwrdd
Yn ddiweddar, rydym wedi sefydlu nifer o Arweinwyr Bwrdd, lle mae Ymddiriedolwr yn cymryd cyfrifoldeb dros faes penodol o waith y cwmni, gan gefnogi ac ymgynghori â thîm MTW a’r arweinwyr prosiect i sicrhau’r arfer gorau posibl. Rydym yn awyddus i recriwtio Arweinydd Bwrdd ar gyfer ein gwaith yn Nhre-biwt (rydym wedi ymrwymo i weithio yn Nhre-biwt rhwng Ionawr 2024 – haf 2026), ochr yn ochr ag Arweinwyr ym meysydd yr iaith Gymraeg, Amrywiaeth, Diogelu a’r Amgylchedd.   

Pam rydyn ni’n awyddus i gael Ymddiriedolwyr Ifanc?
Mae cael syniadau ac arbenigedd pobl ifanc yn hanfodol i’n gwaith ni fel sefydliad. Mae arnom angen yr ystod ehangaf bosib o bersbectifau ar ein Bwrdd, ac rydym yn awyddus i gael ein harwain gan ystod o bobl all gyfrannu at ddatblygiad parhaus ein gwaith ar draws pob cymuned, gan gynnwys pobl ifanc. Rydym yn gobeithio recriwtio o leiaf un person rhwng 18 a 25 oed i gyfrannu eu llais, i’n helpu i ddod o hyd i’r ffyrdd gorau ymlaen er lles dyfodol yr opera, ar gyfer dyfodol y cwmni, ac yn bwysicaf oll, ar gyfer cynulleidfaoedd y dyfodol ac artistiaid o bob cefndir. 

Rydym hefyd yn awyddus i gefnogi pobl ifanc yn eu datblygiad proffesiynol a phersonol, a byddwn yn gweithio gydag Ymddiriedolwyr Ifanc i sicrhau bod hwn yn gyfle iddynt adeiladu ar eu gwybodaeth a’u profiad. Bydd Ymddiriedolwyr Ifanc yn derbyn mentoriaeth gan yr Ymddiriedolwyr cyfredol, a darperir hyfforddiant mewn unrhyw feysydd nad ydynt yn teimlo’n hyderus ynddynt.

Yn ogystal â recriwtio ymddiriedolwr ifanc ac Arweinydd Bwrdd ar gyfer Tre-biwt, rydym hefyd yn awyddus i recriwtio Ymddiriedolwyr yn gyffredinol a chroesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, oedran, sgiliau a phrofiad.

Mwy o wybodaeth
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darllen mwy? Am y pecyn gwybodaeth llawn, gan gynnwys mwy o wybodaeth am yr hyn y mae Ymddiriedolwr yn ei wneud, pa mor aml y maent yn cwrdd a'r broses ymgeisio, ewch i'n gwefan: www.musictheatre.wales/vacancies.html

Os oes gennych ddiddordeb ond heb fod yn sicr p’un ai i gyflwyno cais ai peidio, mae croeso i chi gysylltu â Michael McCarthy (Cyfarwyddwr MTW) am sgwrs anffurfiol, neu gyda Kerry Skidmore, Cadeirydd Ymddiriedolwyr MTW.

Rydym yn ymdrechu’n rhagweithiol i ehangu’r ystod o brofiadau byw, persbectifau diwylliannol, a diddordebau personol a phroffesiynol yn ein Bwrdd; croesewir ceisiadau oddi wrth unrhyw un sy’n credu bod ganddynt rywbeth i’w gynnig, ac a allai fod yn eiriolwr angerddol dros ein gwaith. 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, a byddwn yn ystyried pob cais ar sail teilyngdod. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg, pobl ifanc (dan 30 oed), pobl o gefndiroedd Du ac Asiaidd ac o gefndiroedd ethnig amrywiol, pobl anabl, pobl sy’n LGBTQIA+, a phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is. Fel rhan o’n hymrwymiad i ychwanegu at amrywiaeth ein gweithlu, rydym yn darparu sicrwydd o gyfweliad i ymgeiswyr sy’n cwrdd â lleiafswm gofynion y swydd ac sy’n anabl, niwroamrywiol neu’n perthyn i’r mwyafrif byd-eang. 
 

Dyddiad cau: 31/12/2024