Waeth os wyt ti’n dod yn ôl i Theatr Cenedlaethol Cymru neu’n rhoi tro ar glyweliadau am y tro cyntaf, mae aelodaeth ThCIC 2025 yn cynnig lefel heb ei debyg o brofiadau hyfforddiant a pherfformio proffesiynol. 

Eleni rydym yn canolbwyntio ar roi cynnig hyfforddiant ehangach i fwy o bobl ifanc gyda chyfle i weithio gyda ni i ddatblygu cynlluniau cyffrous ar gyfer cynhyrchiad pen-blwydd ThCIC yn 50 oed a gynllunnir ar gyfer 2026. Er na fyddwn yn teithio gyda chynhyrchiad ThCIC eleni, nid yw hynny’n golygu na fyddwch yn defnyddio eich cyhyrau perfformio a dyfeisio gan y byddwch yn gweithio gyda thîm neilltuol o gyfarwyddwyr, hyfforddwyr symud a llais fydd yn rhoi hwb mawr i’ch sgiliau perfformio. 

Rydym wedi datblygu 5 llinyn cyffrous ar gyfer ThCIC 2025 y bydd pob aelod yn cymryd rhan ynddynt gydag opsiynau i arbenigo ymhellach mewn ambell faes, os cynigir lle iti. Gan weithio gyda’n partneriaid yn y diwydiant, sef Theatr Clwyd a Chanolfan Mileniwm Cymru, Yr Egin S4C, Ffilm Cymru ynghyd â gweithwyr creadigol blaenllaw o Gymru a’r tu hwnt, byddwn yn edrych ar sgiliau oddi ar y llwyfan fel ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y llwyfan a’r sgrîn, dyfeisio ac edrych ar ffyrdd newydd o berfformio a gweithio yn y maes adrodd straeon ymgolli digidol.  

Byddwn hefyd yn cyflwyno sgiliau llawrydd arbenigol fel sain ddisgrifiad, isdeitlo a dylunio sain. Bydd hyn i gyd yn mireinio sgiliau perfformio hanfodol a gwybodaeth am y diwydiant yn ystod y cyrsiau preswyl hynod gefnogol a chyfeillgar, gan ddod â phobl ifanc ynghyd o bob cwr o Gymru i weithio a chymdeithasu gyda’i gilydd. 

Dywedodd Gwennan Mair, Cyfarwyddwr Cymunedau, Lles ac Addysg Theatr Clwyd, am y bartneriaeth:  
“Rydym wrth ein boddau'n parhau i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, a'u croesawu hwy i'n Theatr ar ei newydd wedd, gan roi mynediad i'r holl elfennau sydd gan dŷ cynhyrchu mawr i'w gynnig. Rydym yn hynod gyffrous cychwyn ar y bennod nesaf o Theatr Clwyd ochr yn ochr â Chelfyddydau Cenedlaethol Cymru, i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr.” 

Dywedodd Megan Childs, Cynhyrchydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru: “Mae rhaglen TCIC eleni wedi ei siapio gan farn a dymuniadau pobl ifanc: mwy o sgiliau perfformio allweddol, gofod i archwilio creadigrwydd ar y cyd a chyfleon i arbrofi gyda ffyrdd newydd o weithio ar ac oddi ar y llwyfan. Rydym yn hynod gyffrous i deithio gyda’n taith glyweliadau eto y gwanwyn hwn i cwrdd a chael ein ysbrydoli gan ddoniau Cymreig ymhob cwr o’r wlad.” 

Mae CCIC hefyd yn cynnig clyweliadau am ddim i unrhyw un sy’n methu fforddio’r ffi clyweliad - heb unrhyw gwestiwn. Yn ogystal, oherwydd ein cynllun bwrsariaethau, mae hawl ganddynt dderbyn gostyngiad ar eu ffïoedd trwy y Cynllun Bwrsariaethau. 

Dyddiad cau i ymgeisio: 27 Mawrth 

Ymholiadau: nyaw@nyaw.org.uk  
 

Dyddiad cau: 27/03/2025