Mae Anthem yn dymuno penodi Rheolwr Rhaglenni i weithio gyda’n Prif Weithredwr i gynllunio a rhedeg digwyddiadau a rhaglenni ariannu Anthem. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhywun a all fwrw ati ei hun yn drefnus, ac sydd â’r egni i yrru gweithgareddau a phartneriaethau’r rhaglenni. Bydd yn gyfathrebwr da, ac yn fedrus ar redeg prosesau strwythuredig, trefnu digwyddiadau, rheoli data, asesu, gwerthuso ac adrodd. 

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd angerdd ynglŷn â datblygu pobl ifanc drwy gerddoriaeth ar draws yr holl genres a mynd i’r afael â rhwystrau i gerddoriaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Lawrlwythwch y pecyn swydd o’r ddolen isod i ddarganfod mwy. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12pm ddydd Gwener 8 Mawrth 2024.

Dyddiad cau: 08/03/2024