Neithiwr cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad digymar o £1.57 biliwn  er mwyn diogelu sefydliadau celfyddydol a diwylliannol sydd ymhlith y gorau yn y byd.

 

  • Sefydliadau diwyllianol a threftadaeth i’w diogelu trwy becyn cymorth gwerth £1.57 biliwn
  • Dyfodol amgueddfeydd, orielau, theatrau, sinemau annibynol, lleoliadau treftadol i’w ddiogelu trwy grantiau a benthyciadau brys
  • Bydd cyllid yn cael ei ddarparu er mwyn ail-gychwyn gwaith adeiladu ar safleoedd diwyllianol a threftadaeth sydd wedi bod ar stop o ganlyniad i’r pandemig
  • £59 miliwn o gyllid i’w wneud ar gael i Gymru.

 

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’r newyddion hwn i’w groesawu yn fawr. Mae hwn yn gymorth y bu hir alw amdano ar gyfer  y celfyddydau yng Nghymru.  Diflannodd incwm dros nos i nifer fawr i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, a gyda diwedd y cynllun ffyrlo ar y gorwel, roedd y dyfodol yn edrych yn llwm tu hwnt.  Nid ydym yn gwybod eto pryd y bydd lleoliadau celfyddydol yn medru ail-agor, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn caniatau i ni roi cynlluniau ar y gweill gydag ymdeimlad mwy gobeithiol nac o’r blaen.”

Darllenwch cyhoeddiad y DCMS yma 

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod y camau nesaf gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill ym maes Diwylliant a gwneud cyhoeddiad cyn gynted â phosib ar ôl hynny.

Neithiwr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn i amddiffyn sefydliadau diwylliannol, celfyddydau a threftadaeth Prydain