Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi £53 miliwn i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio ag effaith y pandemig coronafeirws.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o'r gael y buddsoddiad sylweddol yma gan Lywodraeth Cymru. Y Cyngor a’r Llywodraeth fydd yn ei weinyddu ar y cyd. O'r £53 miliwn, bydd y Cyngor yn cael £25.5 miliwn o arian refeniw a £2 miliwn o arian cyfalaf.

Bydd yr arian dan reolaeth y Cyngor ar gyfer sefydliadau celfyddydol a gafodd eu heffeithio gan y coronafeirws ac sy'n ceisio goroesi hyd 2021 a’r tu hwnt pan fydd modd cynnal eu gwaith eto ar gyfer y cyhoedd.

 

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn rheoli arian ar gyfer:

  • theatrau, canolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd
  • orielau
  • sefydliadau sy'n cynhyrchu ac yn teithio gweithgaredd celfyddydol
  • sefydliadau sy'n darparu gweithgaredd celfyddydau cyfranogol


Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli arian ar gyfer:

  • lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad
  • safleoedd treftadaeth
  • amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archif
  • digwyddiadau a gwyliau
  • sinemâu annibynnol
  • gweithwyr proffesiynol creadigol ar eu liwt eu hunain

 

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae’r arian ychwanegol yma i gelfyddydau Cymru yn arwydd o gefnogaeth gref Llywodraeth Cymru. Mae’n cydnabod pwysigrwydd y celfyddydau i les ac economi greadigol Cymru. Mae llawer o sefydliadau celfyddydol yn wynebu'r bygythiad o fynd i’r wal a nifer o weithwyr llawrydd yn pryderu am ennill cyflog. Felly mae’r arian yn helpu i atal y sector rhag mynd dros y dibyn. Bydd  artistiaid a sefydliadau celfyddydol yn cael cyfle nawr i ymsefydlogi ac ymrwymo i'r contract diwylliannol newydd. Nid yw'n ddigon i amddiffyn yr hen ffyrdd o weithio. Rhaid creu dyfodol newydd lle mae’r celfyddydau’n ymestyn yn ehangach ac yn ddyfnach ar draws Cymru."

 

Ar hyn o bryd rydym yn cadarnhau manylion y cynllun gyda Llywodraeth Cymru. Disgwyliwn agor ar gyfer ceisiadau ganol mis Awst, a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ganol mis Hydref.

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar ein gwefan yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.