Mae Tŷ Cerdd yn galw ar artistiaid, cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth sydd wedi dysgu eu hunain / heb gael hyfforddiant ac sydd eisiau gweithio gyda pherfformwyr mewn cerddorfa.
- A oedd hyfforddiant prifysgol neu gonservatoire ffurfiol heb fod yn rhan o’ch llwybr i greu cerddoriaeth?
- Ydych chi’n gallu darllen cerddoriaeth, hyd yn oed os ydych chi’n newydd i weithio gyda sgôr?
Dyma’r llwybr i chi o bosibl!
Drwy gyfres o sesiynau mentora un-i-un gyda’r gyfansoddwraig Lynne Plowman – ynghyd ag adnoddau a sesiynau atodol gan Tŷ Cerdd a phartneriaid y prosiect Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – bydd pedwar crëwr cerddoriaeth yn cael hyfforddiant a sesiynau pwrpasol i ddatblygu sgiliau cyfansoddi ar gyfer offerynnau cerddorfaol (clarinét, ffidil, soddgrwth a phiano).
Bydd pob cyfansoddwr sy’n cymryd rhan yn cael tâl o £600 (yn ogystal â threuliau teithio o fewn Cymru, a llety lle bo angen).
Yn ogystal â’r sesiynau mentora un-i-un gyda Lynne, bydd y prosiect yn cynnwys ymweliadau grŵp â pherfformiadau BBC NOW a gweithdai gydag ensemble siambr perfformwyr BBC NOW, ynghyd â sesiynau gyda BBC NOW a chefnogaeth arbenigol gan staff Tŷ Cerdd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 canol dydd, dydd Mercher 6 Awst