BETH? Mae timau Celfyddydau Mewn Iechyd BIP Aneurin Bevan, CAMHS a Seicoleg Plant a Theuluoedd yn chwilio am artistiaid i ymgysylltu â phobl ifanc a theuluoedd fel rhan o'u prosiect Celfydd a Chrebwyll 2025-26, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, Lleisiau Pobl Ifanc.

PAM? Hoffem sefydlu ystod eang o Artistiaid preswyl mewn nifer o fannau aros yr ymwelir â hwy gan bobl ifanc (13–17 oed), a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn ystod eu triniaeth gyda BIPAB.

Rydym am ddefnyddio creadigrwydd i wella'r mannau hyn; dod o hyd i ffyrdd chwareus o archwilio Lleisiau Pobl Ifanc, eu profiadau a'u straeon. Mae ein Panel Cyfranogiad Ieuenctid wedi dweud yr hoffent weld pobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn y mannau hyn, gan gysylltu â'i gilydd ac annog ei gilydd.

Bydd gofyn i artistiaid ymgysylltu â theuluoedd, ac archwilio creadigrwydd fel ffordd o wella'r mannau aros a'r broses aros.

SUT? Bydd artistiaid preswyl yn canolbwyntio eu gwaith ar gyfleoedd rheolaidd i ymgysylltu â theuluoedd o fewn y mannau aros dros gyfnod o 6-8 mis (dyddiadau a manylion i'w cytuno). Gall ymgysylltu rheolaidd arwain at allbynnau artistig sy'n aros yn y gofodau. Bydd gofyn i artistiaid greu eu hymateb eu hunain i’r gwaith, gan rannu themâu allweddol a’r hyn y maent wedi’i ganfod yn ystod y cyfnod preswyl.

BLE?
Mae 2 x fan aros o fewn Safle Ysbyty Sant Cadog yng Nghaerllion, Casnewydd.
1 x man aros i ganolbwyntio ar Bobl Ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, Casnewydd
1 x cyfnod preswyl gyda chyfarfod y Panel Cyfranogiad Ieuenctid yn Sant Cadog, Caerllion (ond heb fod yn gyfyngedig i)

PRYD?
Ionawr - Chwefror 2025: Proses ymgeisio ac ymgysylltu ag artistiaid
Mawrth – Hydref 2025: Cyflawni (dyddiadau a manylion i'w trafod)
Tachwedd 2025: Cyflwyno'r canfyddiadau a'r broses werthuso

FFI: 8 diwrnod ar gael ym mhob safle, yn unol ag angen y prosiect. Cyfradd ymarferydd celfyddydol dyddiol cystadleuol; adlewyrchu sgiliau, profiad a gofynion y prosiect ee £175-£275 yn dibynnu ar brofiad. Mae adnoddau ar gyfer y prosiect yn ychwanegol at y ffi hon.

Ceisiadau i'w derbyn erbyn 12pm dydd Gwener 21 Chwefror 2025

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad wyneb yn wyneb yn y lleoliad Dydd Llun 3ydd Mawrth 2025

I gael rhagor o wybodaeth a’r briff llawn, anfonwch e-bost at: ABB.ArtsinHealth@wales.nhs.uk
 

Dyddiad cau: 21/02/2025