Mae Dysgu Creadigol Cymru yn falch o ddatgelu pennod newydd gyffrous yn ei genhadaeth i roi creadigrwydd wrth wraidd addysg, yn dilyn cais llwyddiannus diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru i raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru.
Wedi'i hariannu trwy fuddsoddiad o £3m gan Lywodraeth Cymru, gyda chyllid cyfatebol gan gyllid y Loteri Genedlaethol a ddosberthir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd y rhaglen tair blynedd gwerth £6m yn rhedeg tan fis Mawrth 2028. Gan adeiladu ar ddegawd o effaith ac arloesedd mewn dysgu creadigol trwy'r celfyddydau, bydd rhaglen newydd Dysgu Creadigol Cymru yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i ailddychmygu addysgu cwricwlwm a phrofiadau, dyfnhau ymgysylltiad, a datgloi potensial dysgwyr trwy ddulliau beiddgar a chreadigol.
Dywedodd Sian James, Rheolwr y Rhaglen o Gyngor Celfyddydau Cymru,
“Daw’r fenter newydd hon ar adeg hollbwysig ym myd addysg Cymru, gan gyd-fynd yn agos ag uchelgeisiau Cwricwlwm Cymru. Drwy gyllid grant wedi’i dargedu, dysgu proffesiynol pwrpasol, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol creadigol, rydym am i ysgolion gael eu grymuso i ddatblygu profiadau dysgu dychmygus, cynhwysol, ac sy’n cael eu harwain gan ymholiad sy’n cefnogi cynnydd ar draws pob maes dysgu a phrofiad.”
Bydd rhaglen Dysgu Creadigol Cymru yn gweithio gyda’r sector celfyddydau i gefnogi ysgolion a chomisiynu artistiaid o ystod o ddisgyblaethau celfyddydol i gyd-adeiladu profiadau sy’n cael eu harwain gan ymholiad, gan roi’r offer i athrawon a dysgwyr arbrofi, myfyrio, a chymryd risgiau creadigol yn yr ystafell ddosbarth. Bydd Dysgu Creadigol Cymru hefyd yn darparu cyfres o gyfleoedd dysgu proffesiynol wedi’u teilwra ar gyfer addysgwyr.
Ffocws clir ar lythrennedd, lles, a chreadigrwydd
Mae rhaglen Dysgu Creadigol Cymru yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth genedlaethol allweddol:
- Codi lefelau llythrennedd drwy strategaethau dysgu creadigol.
- Gwella lles ac ymgysylltiad dysgwyr drwy wneud dysgu’n fwy ystyrlon a chynhwysol.
- Cefnogi dyluniad cwricwlwm i gyd-fynd â Phedwar Diben Cwricwlwm Cymru, sy’n anelu at ddatblygu myfyrwyr yn: ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; cyfranwyr mentrus, creadigol; dinasyddion moesegol, gwybodus; ac unigolion iach, hyderus.
Gyrru ymlaen arloesedd mewn dylunio cwricwlwm
Bydd dull ffres Dysgu Creadigol Cymru yn gyrru ymlaen arloesedd mewn dylunio cwricwlwm ac yn hyrwyddo trawsnewid ysgol gyfan trwy ymgorffori diwylliannau creadigol a chymunedau dysgu. Trwy ymgysylltu ag arweinwyr, athrawon, dysgwyr ac artistiaid, bydd y rhaglen yn cefnogi ysgolion i:
- Alinio â'r sgiliau annatod trwy ddatblygu’r Pedwar Diben Cwricwlwm Cymru, gyda ffocws ar ddatblygu cyfranwyr mentrus a chreadigol.
- Datblygu sgiliau meddwl creadigol a beirniadol, gan helpu dysgwyr i ffynnu mewn byd sy'n esblygu'n barhaus.
- Gwella llythrennedd a llafaredd, yn enwedig i'n dysgwyr mwyaf difreintiedig.
- Canolbwyntio llais y dysgwr mewn dylunio cwricwlwm a chynllunio datblygu ysgolion.
- Darparu cynnig pwrpasol, ymatebol wedi'i deilwra i anghenion a nodau unigryw pob ysgol.
Cyfoethogi Addysg Trwy'r Celfyddydau
Bydd ysgolion hefyd yn parhau i elwa o gronfeydd Ewch i Weld a Rhoi Cynnig Arni Dysgu Creadigol Cymru. Mae'r cronfeydd hyn yn dod â'r Celfyddydau Mynegiannol yn fyw trwy:
- Ymweliadau â chelf o ansawdd uchel mewn lleoliadau ledled Cymru.
- Gweithdai ymarferol gydag artistiaid proffesiynol.
- Ffocws penodol ar ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu drwy bum disgyblaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol: celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol a cherddoriaeth.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Llongyfarchiadau i dîm Dysgu Creadigol Cymru ar ennill y rhaglen newydd hon, gan gryfhau’r bartneriaeth sefydledig a llwyddiannus sydd eisoes rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru ym maes dysgu creadigol drwy’r celfyddydau. Rydym yn galw ar ysgolion ledled Cymru i ymuno â ni i ailddychmygu addysg - p’un a ydych chi’n newydd i ddysgu creadigol neu’n barod i ddyfnhau eich taith. Gyda chyllid, hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol, mae Dysgu Creadigol Cymru yma i helpu eich ysgol i feddwl yn wahanol, addysgu’n greadigol ac arwain yn feiddgar.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi dros £44m mewn cyllid addysg heddiw, mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn cefnogaeth gyson o ansawdd uchel i'n holl ysgolion. Mae hyn yn cynnwys cyllid i Dysgu Creadigol Cymru i helpu i gefnogi llythrennedd, lles, creadigrwydd a mynediad i'r celfyddydau.
"Rydym yn helpu ysgolion i gynyddu buddsoddiad mewn safonau llythrennedd a rhifedd, gan herio ac ymgysylltu â'u dysgwyr ar draws y cwricwlwm."
Bydd cyfleoedd i ysgolion, artistiaid a sefydliadau ledled Cymru ar gael o dymor yr hydref ymlaen.
Am ragor o wybodaeth, cofrestrwch ar gyfer y bwletin Dysgu Creadigol neu cysylltwch â creative.learning@arts.wales.