Mae Noson Allan, cynllun Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu cymunedau ledled Cymru i drefnu perfformiadau mewn neuaddau pentref, clybiau chwaraeon a phob math o leoliadau llai eraill wedi lansio gwefan newydd: www.nosonallan.org.uk

Ers 44 mlynedd gyda chymorth awdurdodau lleol Cymru, mae Noson Allan wedi cefnogi dros 14,000 mewn neuaddau a lleoliadau cymunedol ledled y wlad. 

Yn 2023/24, ariannodd Noson Allan 489 perfformiad gan 296 grŵp o hyrwyddwyr mewn 321 lleoliad, gyda 2,694 gwirfoddolwr yn rhoi o'u hamser.

Mae'n system archebu i grwpiau cymunedol drefnu perfformwyr proffesiynol. Ond mae hefyd yn warant yn erbyn colled fel y gall y trefnwyr fod yn hyderus y bydd y perfformwyr yn cael eu ffi drwy’r cynllun. Felly mae’n haws i sefydliadau cymunedol fentro cynnal digwyddiad.

Dywedodd Peter Gregory, Pennaeth Noson Allan:

"Mae digwyddiadau gan Noson Allan yn fodd i bobl brofi'r celfyddydau mewn mannau sy’n gartrefol a rhannu’r profiad â chyfeillion a chymdogion. Drwy wrando ar adborth pobl, rydym yn siŵr y bydd ein gwelliannau i'n gwefan yn annog grwpiau newydd i drefnu digwyddiadau a gwneud y wefan yn haws i’n hen bartneriaid."

Mae'r wefan newydd yn system archebu ond ar ben hynny mae’n rhoi cefnogaeth, cyngor a rhestr o sioeau a pherfformwyr sydd ar gael drwy'r cynllun. Mae’r perfformwyr yn dod o Gymru a thramor i gynnig gwahanol fathau o ddifyrrwch - theatr, opera, cerddoriaeth o bob math, syrcas, adrodd straeon, dawns ac ati.

"Mae gennym sioeau a theithiau ardderchog ar gyfer 2025," meddai Peter. "Felly cofrestrwch fel hyrwyddwr. Mae'n hawdd iawn ei wneud a bydd ein tîm yn hapus i'ch helpu. Bydd yn dechrau rhywbeth mawr i'ch cymuned. Ewch i: www.nosonallan.org.uk "

Sylwadau am Noson Allan

"Roedd pawb yn y gynulleidfa ar eu traed yn dawnsio. Roedd yn noson wych a phawb wedi’i mwynhau. Roedd Noson Allan wedi lleihau ar y gofid ariannol. Roeddem yn gallu canolbwyntio ar ddod â'r gymuned at ei gilydd ar gyfer noson wych."

  • Canolfan India, Cymdeithas Ddiwylliannol Hindŵaidd

"Noson anhygoel ac roeddwn yn chwerthin fy ochr. Roedd yn noson annisgwyl a gwych. Roedd yn anodd credu egni’r perfformiad. Pryd gallwn gael noson arall? Roedd y perfformwyr mor agos-atoch. Byddwn yn tyngu eu bod yn bobl leol!"

  • Neuadd Bentref Port Einon

"Ychydig iawn o set a dim ond tri yn y cwmni – roedd gosod a chlirio’r llwyfan mor hawdd. Roedd y sioe yn wych ac roedd y gynulleidfa'n amlwg yn mwynhau. Roedd pobl y trefi mawr ar eu colled!" 

  • Cymdeithas Ddrama Amatur Dolgellau

"Roedd Pedair yn anhygoel. Maen nhw'n gerddorion wych sy'n perfformio â’u holl galon ac enaid. Roedd y lle’n llawn a’n cynulleidfa wedi’i chyfareddu." 

  • Llusern Hud Tywyn 

"Mae Noson Allan yn gaffaeliad i'n cymunedau. Mae'n ymgorffori cydraddoldeb ac ymrymuso. Rydym yn ffodus o gael y fath gynllun."

  • Kiran Cymru