Mynnwch gais [daw i ben 25 Ebrill 2025]

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Stiwdio Serameg Ryngwladol (ICS) unwaith eto yn cynnig cyfle preswylio yn Kecskemét, Hwngari. 

Mae ceisiadau yn agored i BOB ymarferydd serameg yn y DU gan gynnwys rhai sydd wedi dod at serameg canol gyrfa neu’n hwyrach sy’n dymuno gweithio mewn amgylchedd cyfoethog a diwylliannol. 

Mae’r ICS yn ganolfan cyfnewid diwylliannol rhyngwladol, sy’n caniatáu i artistiaid weithio ochr yn ochr ag eraill o amrywiaeth o gefndiroedd cyfoethog ac amrywiol yn ddiwylliannol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr celfyddydau lleol.

Mae’r rhaglenni’n rhoi lle i artistiaid greu gweithiau newydd, arbrofi gyda syniadau arloesol, archwilio cyfeiriadau newydd yn eu gwaith ac ymchwilio i ffyrdd newydd a gwahanol o wneud.

Dr Natasha Mayo oedd enillydd y wobr yn 2023, ac mi fydd yn trafod ei hymchwil â’i hamser yn Hwngari yn ystod yr Ŵyl eleni.

 

Dyddiad cau: 25/04/2025