Ymunwch â’r tîm yn Amgueddfa Cymru i gynhyrchu deuddydd o rhaglen gerddorol ar gyfer Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn Sain Ffagan. 

Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad 2 ddiwrnod sy’n addas i’r teulu cyfan, gan arddangos bwyd a diod, cynaliadwyedd ac adloniant o Gymru. 

Eleni, bydd Llwyfan Newydd (New Heights) a Bloedd yn curadu’r gerddoriaeth ar draws yr ŵyl ddeuddydd. Byddwn yn hyrwyddo rhaglen gerddorol sy’n arddangos cerddorion mwyafrifol byd-eang, artistiaid ifanc a bandiau amgen, eclectig. 

Mae prosiect Llwyfan Newydd (New Heights) yn hyrwyddo cynrychiolaeth ehangach o gymunedau amrywiol mewn lleoliadau treftadaeth, gan gynnal nosweithiau sy’n arddangos cerddorion, pobl greadigol a pherfformwyr MOBO Cymru. Bloedd yw rhaglen gydweithredol Amgueddfa Cymru i bobl ifanc sy’n cynnig cyfleoedd ac ehangu ymgysylltiad â phobl ifanc ledled Cymru. Mae Llwyfan Newydd (New Heights) a Bloedd yn hyrwyddo cynhwysiant, yn rhoi llwyfan i artistiaid o Gymru ac yn cynnig rhyddid creadigol i wahodd cerddorion ac artistiaid amgen ac amrywiol i berfformio yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru. 

Dechreuodd Bloedd gymryd rhan yn yr Ŵyl Fwyd yn 2021 gyda rhaglen Gŵyl Fwyd Ddigidol – Bloedd yn yr Ŵyl Fwyd⁠; digwyddiad cerddorol ar-lein gafodd ei gynhyrchu gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn arddangos cerddorion ifanc bendigedig o Gymru. Yn 2022, cynhaliom raglen o berfformiadau yn Llys Llywelyn, llys canoloesol o'r 13eg ganrif yn Sain Ffagan, a llynedd fe wnaeth Bloedd a Llwyfan Newydd (New Heights) arddangos artistiaid anhygoel ar draws dau lwyfan yng nghanol yr ŵyl. 

 

‘It takes more than just music creation to make a scene’: Showcasing Welsh MOBO - Institute of Welsh Affairs (iwa.wales) 

 

Bloedd AC (@bloedd_ac) • Instagram photos and videos 

 

Rydyn ni’n chwilio am hyrwyddwr uchelgeisio rhwng 16 – 30 oed i gydweithio gyda thîm yr Ŵyl Fwyd i hyrwyddo a chynhyrchu rhaglen gerddorol sy’n amlygu ethos Llwyfan Newydd (New Heights) a Bloedd. 

Hyrwyddwr a Chynorthwy-ydd Cynhyrchu – Cyfanswm o 14 diwrnod 

Ffi £1,400 (mewn rhandaliadau rhwng Mehefin-Medi) 

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn sydd â gwybodaeth dda o sîn gerddoriaeth MOBO Cymru, yn ogystal â’r sîn gerddoriaeth danddaearol a’r sîn gerddoriaeth ddiwylliannol yma yng Nghymru, Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r timau Ymgysylltu a Digwyddiadau i guradu’r digwyddiad. 

Bydd y rôl yn cynnwys: 

  • Hyrwyddo a churadu deuddydd o rhaglen gerddorol i’r ŵyl. 

  • Gwaith gweinyddol ac amserlennu cyn y digwyddiad. 

  • Paratoi a llenwi taenlenni archebu. 

  • Cysylltu ag artistiaid, contractau, manylebau technegol ac asedau. 

  • Datblygu amserlenni perfformio ar gyfer y cerddorion. 

  • Rhoi dulliau asesu risg ar waith. 

  • Cynnal a rheoli’r llwyfan gerddoriaeth yn yr ŵyl. 

Gallwn gynnig trefniadau gweithio hyblyg, gan weithio gyda chi i greu amserlen sy'n gweithio i chi, ac yn cynnig cyfle i chi weithio gartref. Fodd bynnag, bydd rhai diwrnodau cyn ac yn ystod y digwyddiad lle bydd gofyn i chi fod ar y safle drwy'r dydd. Byddwch chi a'r Swyddog Digwyddiadau/Cydlynydd Ymgysylltu yn cytuno ar eich patrwm gwaith pan fyddwch chi'n dechrau yn y rôl. 

 

Sut i ymgeisio: 

Cyflwynwch fynegiant o ddiddordeb o hyd at 1000 o eiriau yn amlinellu –  

  • Paragraff byr amdanoch chi’ch hun. 

  • Pam fod gyda chi ddiddordeb yn y rôl? 

  • Beth fyddech chi’n ei gynnig i’r prosiect? 

  • Unrhyw brofiad perthnasol sydd gyda chi. 

 

Hoffem i chi gynnig rhestr o 4 artist yr hoffech chi eu gweld yn perfformio yn yr Ŵyl Fwyd eleni. Cadwch werthoedd ac ethos Llwyfan Newydd (New Heights) a Bloedd yn ogystal â chynulleidfa’r Ŵyl Fwyd mewn cof wrth gynllunio eich rhaglen. 

Fel arall, mae croeso i chi gyflwyno eich atebion ar ffurf fideo neu recordiad sain o hyd at 5-7 munud o hyd. 

Ebostiwch eich mynegiant o ddiddordeb at bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk erbyn dydd Llun 10fed Mehefin 2024. 

Mae'r gwaith yn gofyn i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU ac os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae angen y fisa myfyriwr cywir arnoch sy'n eich galluogi i weithio yn ystod eich astudiaethau. Rydym yn rhagweld y bydd yr wythnos sy'n arwain at yr ŵyl a thros benwythnos yr ŵyl yn gofyn am fwy nag 20 awr o waith. Am gyngor ewch i wefan gov.uk. 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â ni drwy neges breifat neu ebost. 

Dyddiad cau: 10/06/2024