Mae Gwobrau Bywydau Creadigol yn ddathliad o gyflawniadau prosiectau a grwpiau creadigol cymunedol.
Mae enillwyr ein Gwobrau i gyd yn defnyddio creadigrwydd i ddod â phobl at ei gilydd. Gall grwpiau gymryd rhan mewn canu, dawnsio, peintio, crefftio, perfformio, cerddoriaeth, neu unrhyw weithgaredd creadigol arall. Mae pob un ohonynt yn darparu cyfleoedd hanfodol i bobl ddod o hyd i gymuned, mynegi eu creadigrwydd, gwneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd, hybu eu lles - a chael hwyl gyda'i gilydd!
Bydd enillwyr yn derbyn gwobr ariannol ynghyd â phecyn o gefnogaeth, hyrwyddo a chyfleoedd rhwydweithio.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun 13 Mai 2024.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais, e-bostiwch info@creative-lives.org
Pob lwc!