Noddir gan Potclays.
Mynnwch gais [daw i ben 25 Ebrill 2025]
Dechreuodd Gwobr Gwneuthurwyr Newydd Potclays yn 2011. Mae’n gyfle i grochenwyr ac artistiaid yn y DU sy’n gweithio gyda chlai ac sydd wedi graddio yn ystod y pum mlynedd diwethaf, arddangos eu gwaith yng Ngŵyl Serameg Ryngwladol 2025.
Gofynnir i’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ddod â detholiad o’u gwaith i gymryd rhan yn arddangosfa’r Gwneuthurwyr Newydd yn ystod y penwythnos. Bydd pawb sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael tocyn penwythnos a lle i aros ar gyfer yr Ŵyl Serameg Ryngwladol 2025. Bydd gan yr holl gystadleuwyr yn y rownd derfynol broffil ar wefan ICF ac rydym yn argymell bod ganddyn nhw wefan neu flog i gysylltu hefyd. Bydd y pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan yr ICF o ran rhoi cyhoeddusrwydd ar draws cyfryngau cymdeithasol ICF yn yr amser tan yr Ŵyl nesaf o leiaf.
Bydd yr enillydd yn derbyn taleb o £200 i’w wario gyda Potclays LTD, cyhoeddir cyfweliad ar wefan Potclays, rhoddir tystysgrif wedi’i fframio, ynghyd â chefnogaeth barhaus ar gyfryngau cymdeithasol a digidol e.e. datganiadau i’r wasg ar gyfer eu newyddion a’u digwyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn eu cylchlythyrau e-bost misol. Yn ogystal, bydd yr ICF yn darparu tocyn i Ŵyl 2027.
Ymgeiswyr:
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac wedi’u lleoli yn y DU. Rhaid eu bod wedi graddio o brifysgol yn y DU neu sefydliad Addysg Uwch yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae hyn yn cynnwys myfyrwyr a fydd yn graddio erbyn mis Gorffennaf 2025.