Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Mae adran Technegol yn awyddus i benodi Gweinyddwr Technegol i goruchwylio a rheoli gwaith gweinyddol y Swyddfa Dechnegol a chefnogi Tîm y Swyddfa Dechnegol i ddatblygu ac ymgymryd â phrosiectau strategol. Mae'r swydd wedi’i lleoli yn Swyddfeydd Technegol WMC, bydd cyfarfodydd achlysurol ar safleoedd CTS ac Eastmoors, yn ogystal ag ymweliadau achlysurol â lleoliadau taith ar gyfer cyfarfodydd gweithredol. 

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Sicrhau bod y gwasanaeth gweinyddol a ddarperir i'r Swyddfa Dechnegol yn cael ei ddarparu a'i gynnal i safon uchel. 
  • Cynnal a diweddaru'r holl wybodaeth dechnegol ar Sharepoint ac ar wefannau yn ôl yr angen.
  • Hyrwyddo gweithrediadau llogi cynyrchiadau trwy WNO a gwefannau a fforymau rhyngwladol. 
  • Cefnogi'r Rheolwr Trafnidiaeth i gydymffurfio â thelerau Trwyddedau Gweithredwr Cerbydau Nwyddau WNO gan gynnwys: cadw cofnodion am yrwyr a cherbydau.
  • Cefnogi'r Uwch Dechnegydd Gweithrediadau i reoli cydymffurfiaeth a chynnal a chadw ar Gerbydau Cwmni sydd ddim yn LGV gan gynnwys: cadw cofnodion gyrwyr a cherbydau.
  • Cefnogi'r Rheolwr Gweithrediadau Technegol i gysylltu â Thimau Rheoli Cyfleusterau CMC at ddibenion cynnal a chadw adeiladau, diogelwch, glanhau, rheoli plâu a materion eraill yn ôl yr angen. 
  • Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer llogi stoc, propiau a gwisgoedd - cynnal dyddiadur archebu - rhoi gwybod am gynnydd a gofyn am gefnogaeth weithredol gan yr Uwch Dechnegydd Gweithrediadau.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

  • Cefndir amlwg mewn rôl weinyddol. 
  • Sgiliau trefnu, gweinyddu a rhifol rhagorol.
  • Sgiliau cyfrifiadur rhagorol gyda phwyslais ar becynnau Microsoft Office a phecynnau cronfeydd data.
  • Gallu blaenoriaethu llwyth gwaith cymhleth a gweithio o fewn terfynau amser tynn.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig rhagorol. 
  • Profiad o ddatblygu systemau a gweithdrefnau gweinyddol effeithiol.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
  • Gweithio’n galed ac yn egnïol; yn hyblyg ac yn gallu addasu.
  • Yn gallu gweithio ar eich pen eich hun ac ar eich menter eich hun yn ogystal â fel aelod o dîm.

Os ydych yn chwilio am eich her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw geisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na phe baent yn Saesneg.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â heledd.davies@wno.org.uk 
 

Dyddiad cau: 15/11/2024