Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl:Gweinydd Bar Achlysurol
Cyflog: £12.00 yr awr
Dyddiad Cau: 19 Mehefin 2024
Dyddiad Cyfweld: WD 26/06/2024 – 12/07/2024
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Am y Rôl
Fel Gweinydd Bar byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth effeithlon, gwybodus a chyfeillgar ym mhob un o fariau’r Ganolfan.Bydd hyn yn cynnwys bariau’r theatr, bar cabaret, bar y caffi, bar y patio ac unrhyw fannau gweini bar arall.Mae’n bosib y bydd gofyn i chi hefyd weithio o fewn unrhyw ardal o’r adran bwyd a diod yn ôl y gofyn.
O fewn y rôl hon byddwch chi:
·Paratoi diodydd alcoholig a di-alcohol
·Cynorthwyo gwesteion lle’n berthnasol wrth ddewis bwyd a diod a sicrhau gwybodaeth lawn o'r holl gynnyrch sydd ar gael yn y Ganolfan
·Deall polisi'r Ganolfan mewn perthynas â defnyddio cynnyrch Cymreig a chydymffurfio â’r polisi hwn yn gyson·Mae’r gallu i roi sylw i fanylder ynghyd â deall offer a thechnegau cymysgu diod yn ddymunol.
·Sicrhau bod pob ardal fasnachol yr ydych yn gweithio ynddynt yn edrych yn ddeniadol ac yn meddu ar lefelau uchel o lanweithdra a chyflwyniad·Cydnabod a gweithredu yn unol ag anghenion gwesteion wrth gydymffurfio â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol Bwyd a Diod, gan gymryd perchnogaeth lawn o’r digwyddiadau a’r shifftiau a ddyrannwyd i chi.
·Trin arian parod a delio gyda thrafodion cardiau credyd/debyd, gan sicrhau bod taliadau’n gywir ac yn balansio.
Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.
Beth Sydd Ynddo I Chi
- Cyflogwr cyflog byw go iawn
- Hawl i Bensiwn Now
- Oriau gwaith hyblyg – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweddu i’ch bywyd personol a'ch ymrwymiadau
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer: lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Mynediad am ddim i ddysgu Cymraeg ar-lein
- Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
- Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis Canolfan Mileniwm Cymru
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Rydym yn croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os byddwch yn gwneud cais am rôl yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.