Mae rhaglen Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n rhoi Celfyddydau a chreadigwrydd wrth galon addysg, wedi ei amlygu fel rhan o lansiad cynllun i gefnogi ysgolion gyflawni blaenoriaethau’r cwricwlwm.

Dyfernir dros £12m o grantiau yn 2025-26 i amrywiaeth o sefydliadau i gefnogi blaenoriaethau'r cwricwlwm, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau llythrennedd a rhifedd.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer y Rhaglen Dysgu Creadigol lle mae gweithwyr proffesiynol creadigol yn gweithio gydag ysgolion i gefnogi creadigrwydd ac arloesedd ar draws y cwricwlwm mewn pynciau fel mathemateg, gwyddoniaeth, y dyniaethau a dinasyddiaeth.

Un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y Rhaglen Dysgu Creadigol yw Ysgol Gynradd Rofft ym Marford, Wrecsam.

Gan ddefnyddio'r llyfr 'Dragons of Wales', gan y darlunydd Andy Frazer, fel eu hysbrydoliaeth, creodd dysgwyr Blwyddyn 3 yr ysgol eu dreigiau eu hunain gan eu henwi a'u gosod yn eu cymuned leol a phenderfynu ar ddeiet, ymddangosiad ac uwchbwerau. Fe wnaethant hefyd edrych ar gylchoedd bywyd, a strwythur ysgerbydol, gan ddod â'u syniadau yn fyw trwy fodelu 3D a chreu eu llyfr eu hunain.

Fe wnaeth y prosiect alluogi dysgwyr i archwilio hanes, amgylchedd a chwedlau Marford i ysbrydoli eu hysgrifennu creadigol.

O ganlyniad i fod yn rhan o'r prosiect mae un dysgwr, na fyddai'n darllen o gwbl o'r blaen, bellach wedi dechrau darllen yn y dosbarth o'i wirfodd.

Dywedodd Linda Harrop, athrawes Blwyddyn 3 yn Ysgol Gynradd Rofft:

“Fe wnaeth yr hyn a ddechreuodd fel pwnc hwyliog am ddreigiau droi’n daith anhygoel a gefnogwyd gan y prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol, i wella dysgu ac addysgu.

“Roedd y plant yn gyffrous ac yn frwdfrydig o'r diwrnod cyntaf a hyd yn oed ar ôl i'r pwnc ddod i ben. Maent wedi datblygu dull mwy agored o ysgrifennu ac yn llawer mwy awyddus i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a’u sgiliau creadigol."

Gwahoddir sefydliadau o'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus, prifysgolion a chwmnïau preifat i wneud cais am y grantiau i gefnogi ysgolion a lleoliadau gydag arbenigedd, hyfforddiant, deunyddiau a digwyddiadau, gan sicrhau ystod o gefnogaeth gan sefydliadau allanol.

Bydd prosiectau'n canolbwyntio ar nifer o flaenoriaethau allweddol y cwricwlwm:

  • Cynllunio'r cwricwlwm
  • Llythrennedd
  • Mathemateg a rhifedd
  • Gwyddoniaeth a thechnoleg
  • Y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol (drwy CLlLC)
  • Dysgu sylfaen

Mae newidiadau wedi’u gwneud i'r ffordd y dyfernir grantiau i adlewyrchu'n well sut y caiff Cwricwlwm Cymru ei addysgu ac i roi i athrawon yr hyn sydd ei angen arnynt i sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r cyllid ychwanegol hwn a fydd yn galluogi ystod o sefydliadau i helpu ysgolion i ddod â'n cwricwlwm yn fyw a chefnogi blaenoriaethau allweddol fel rhifedd a llythrennedd.

"Rydym yn ail-lunio addysg i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn dyheu am ddysgu a llwyddo - gan roi'r dechrau gorau iddynt yn yr ysgol a'n helpu ni i godi safonau.

"Mae ein cwricwlwm yn rhoi'r hyblygrwydd i athrawon deilwra gwersi i'w dysgwyr, fel bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i gyrraedd eu potensial llawn yn y byd sydd ohoni. Mae'r grantiau hyn yn ymwneud â defnyddio'r arbenigedd a'r profiad sydd gennym ledled Cymru i helpu ysgolion i wneud y gorau o'r cwricwlwm."

Dyfernir grantiau naill ai'n uniongyrchol i sefydliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni blaenoriaethau'r cwricwlwm, neu drwy gynigion cystadleuol i sefydliadau sy'n targedu prosiectau penodol yn erbyn blaenoriaethau cymorth cenedlaethol clir.

Bydd y dyfarniadau grant yn cyd-fynd yn agos â'r ystod o gymorth i ysgolion a lleoliadau a ddarperir drwy sefydliadau eraill, megis awdurdodau lleol, Adnodd a'r sefydliad dysgu proffesiynol cenedlaethol newydd.

Bydd grantiau yn cael eu dyfarnu i sefydliadau sydd â hanes o gefnogi dysgu ac addysgu mewn ysgolion a lleoliadau ac sy'n gallu dangos dealltwriaeth o sut i helpu ysgolion i weithredu'r cwricwlwm. 

Agorodd y cyfnod ar gyfer cyflwyno cynigion ar 29 Tachwedd 2024 a bydd yn dod i ben ar 31 Ionawr 2025.

Manylion y rhaglen: Rhaglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru