Mae Cronfa Ysgoloriaeth Deithiol Lisa Ullmann yn cefnogi unigolion sy'n gweithio ym mhob maes o symudiad a dawns sy'n dymuno teithio er mwyn cyfoethogi eu harferion proffesiynol. Croesewir ceisiadau gan goreograffwyr, perfformwyr, darlithwyr, athrawon, ysgrifenwyr, therapyddion, cynhyrchwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig. Mae'r gronfa yn cefnogi costau teithio yn benodol, ond rhaid i geisiadau cryf ddangos sut y bydd eich taith/prosiect arfaethedig yn dod â budd i gymunedau, gweithleoedd neu gynulleidfaoedd ehangach. Mae cronfa 25/26 bellach ar agor i brosiectau arfaethedig o Ebrill 2025 i Ebrill 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 31 Ionawr 2025.
Am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais, cyrchwch https://lutsf.org.uk
Dyddiad cau: 31/01/2025