Golygydd Cynnwys y We Disgrifiad Swydd

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Parhaol

Gradd C: Cyflog cychwynnol o £32,915

Lleoliad: Fel arfer gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn).

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Am y rôl

Rydym yn chwilio am Olygydd Cynnwys y We i gynnal trosolwg golygyddol o gynnwys a safon ei wefannau gan ddarparu ffordd gadarnhaol a chyson o fynd ati o ran cyfathrebu mewnol ac allanol ar ein gwefannau rhyngrwyd a mewnrwyd. Amddiffynna'r Golygydd enw da a brand y Cyngor ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol.

Amdanoch chi

Bydd gan ddeilydd y swydd radd berthnasol a/neu brofiad proffesiynol eang gyda hanes o lwyddo o ran rheoli gwefannau/cynnwys mewnrwydi a sianeli'r cyfryngau cymdeithasol.  Mae gwybodaeth o faterion cyfle cyfartal, yn benodol o ymarfer da wrth ddarparu safonau hygyrchedd gwefannol, a gwybodaeth o'r Ddeddf Diogelu Data yn hanfodol.

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfle Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn fformat Word i AD@celf.cymru Os hoffech gyflwyno’ch cais mewn fformat gwahanol e.e. fideo neu nodyn llais, cysylltwch a ni o flaen llaw os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau: Hanner nos, Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024

Cyfweliadau: Dydd Iau 16 Mai 2024.

 

Dogfen11.04.2024

Pecyn Swydd: Golygydd Cynnwys y We