37 awr / parhaol
£25,584 - £26,835 *
*Mae'r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.
Oes gennych chi angerdd dros greadigrwydd a’r gymuned? Hoffech chi gefnogi safle a gweithgareddau Theatr Felinfach?
Mae Theatr Felinfach ar flaen y gad o ran celfyddydau cymunedol, dwyieithog. Rydym yn edrych i benodi Gofalwr a Thirmon ar gyfer Campws Theatr Felinfach fydd yn cyfrannu at fwrlwm cymunedol a chefnogi defnydd o safle ac adnoddau’r theatr a’r campws.
Dyddiad cau: 12/02/2025