Rydym yn chwilio am bedwar artist i fod yn rhan o gynllun Celf ar Bresgripsiwn 2025.
Mae Celf Cymunedol Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Frân Wen yn chwilio am bedwar artist i dderbyn hyfforddiant gan arbenigwyr Celf, Iechyd a Llesiant cyn darparu sesiynau Celf ar Bresgripsiwn i bobl ifanc 16-30 oed.
Bydd y pedwar artist yn ymgymryd mewn cyfnod o hyfforddiant yn Nyth, cartref Frân Wen ym Mangor, ar y dyddiadau canlynol:
• Dydd Mercher 12ed Chwefror 2025
• Dydd Iau 13eg Chwefror 2025
• Dydd Sadwrn 23ain Chwefror 2025
Yn dilyn hyn, bydd yr artistiaid yn mynd ati i ddarparu sesiynau galw heibio a sesiynnau dwys i bobl ifanc, gan ddefnyddio’r celfyddydau i ddarparu dull ataliol ar gyfer pwysau gorbryder, diffyg hyder, anhawster cymdeithasu ac unigrwydd.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal rhwng mis Mawrth a Gorffennaf 2025 yn unol ag anghenion y prosiect. Bydd pob artist yn cael eu comisiynu am o leiaf 5 diwrnod o waith llawn i gyflawni’r prosiect.
Telerau: Telir ffi dyddiol o £175 (i gynnwys treuliau) i gymryd rhan yn yr hyfforddiant a gweithredu’r cynllun. Mae’r alwad yma’n agored i artist o unrhyw gyfrwng ym maes theatr e.e. perfformio, dawns, ysgrifennu, cerddoriaeth ayyb.
Os oes diddordeb gennych bod yn rhan o’r cynllun yr oll sydd angen ei wneud yw danfon y manylion canlynol at Ffion Strong ffionstrong@gwynedd.llyw.cymru erbyn Ionawr 10fed 2025:
• CV cyfredol
• Llythyr neu fideo byr dim mwy na 5 munud o hyd yn amlinellu pam fod y gwaith Celf, Iechyd a Llesiant o ddiddordeb a beth allwch chi ei gynnig i’r prosiect.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
Bydd cyfweliadau yn digwydd yn Nyth, Bangor wythnos 20fed Ionawr 2025.
Prosiect gyda chefnogaeth Meddygfa Bodnant Bangor ac Adran Llesiant Myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Cefnogir y prosiect gan Gronfa Loteri’r Celfyddydau, Iechyd a Lles, Cyngor Celfyddydau Cymru.