Mae Dawns i Bawb yn chwilio am Aelodau Bwrdd newydd i helpu i lunio ein dyfodol.

Sefydliad dawns cymunedol ydi Dawns i Bawb, wedi ei leoli yng Ngogledd-orllwein Cymru, sy'n datblygu gweithgaredd dawns gyda phobl o bob oedran a gallu ar draws Gwynedd, Ynys Mon a Chonwy. Credwn y gall pawb ddawnsio, a bod gan ddawns y potensial i gael effaith adeiladol a chadarnhaol ar unigolion a chymunedau a bod gan ddawns rol i chwarae wrth greu byd iachach, gwyrddach a mwy grymusol i'n cymunedau fyw ynddo.

Mae Dawns i Bawb yn sefydliad celfyddydol a ariennir dros sawl blwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a grantiau craidd gan Gyngor Wynedd a Mon. Rydym yn chwilio am aelodau Bwrdd newydd i ymuno a ni i helpu llunio ein blynyddoedd nesaf.

Rydym yn gyffrous i groesawu unigolion o bob cefndir sy'n rhannu ein gweledigaeth. Rydym yn ymdrechu i wneud ein sefydliad yn amrywiol, yn gynhwysol ac yn groesawgar ar bob lefel. Rydym yn ymroddedig i feithrin bwrdd amrywiol a meithrin amgylchedd gynhwysol lle gall pawb fod yn nhw eu hunain. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a chymuned, gydag anogaeth arbennig i'r rhai o grwpiau oedran, y rhai ag anableddau, amrwyiol hunaniaethau o ran rhywedd, tueddiadau rhywiol, hil, a chrefyddau neu gredoau.

Os ydych chi'n credu yng ngrym cynhwysol a thrawsnewidiol dawns cymunedol a bod gennych sgiliau mewn Adnoddau Dynol, cynllunio busnes, codi arian, a/neu farchnata, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno a ni.

Mae ein cyfarfodydd yn dilyn model hybrid felly mae modd mynychu wyneb i wyneb neu drwy Zoom. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn chwarterol a hefyd cewch cyfle i ymuno ag is-grwpiau sy'n gweithio'n agosach a'r Cyfarwyddwr ar faterion penodol.

Am fanylion pellach neu am drafodaeth am ddod yn Aelod o Fwrdd Dawns i Bawb, anfonwch ebost at catherine@dawnsibawb.org
 

Dyddiad cau: 13/12/2024