Wrth ddathlu dechrau ei ben-blwydd yn 20 ain, mae Artes Mundi’n cyhoeddi’r alwad i enwebu artistiaid ar gyfer Artes Mundi 11 (AM11) o dydd Mercher 10 Ebrill tan ddydd Gwener 31 Mai 2024. 

Artes Mundi sydd â’i gartref yng Nghaerdydd yw prif sefydliad rhyngwladol Cymru i’r celfyddydau gweledol. Wedi’i sefydlu yn 2002, mae gwobr ac arddangosfa enwog Artes Mundi’n cael eu cynnal  ochr yn ochr â rhaglen gyhoeddus uchelgeisiol ynghyd â phartneriaethau, comisiynau a phrosiectau cymunedol cydgreadigol sy’n dangos ein hymrwymiad i gydweithio ag artistiaid gweledol cyfoes, yn rhyngwladol ac yn lleol, y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realiti gymdeithasol a phrofiad personol. 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol neu sy’n ymwneud â nhw gyflwyno enwebiadau ar gyfer AM11. Rhaid cyflwyno enwebiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen a geir drwy’r ddolen isod. 

CLICIWCH YMA I ENWEBU

Cwestiynau ac atebion i’ch helpu gyda’r broses 

Mae artistiaid o unrhyw le yn y byd yn gymwys. Er y disgwylir y bydd artistiaid yn adnabyddus yn eu gwledydd neu ranbarthau eu hunain, rhagwelir y bydd ganddynt rywfaint o brofiad o arddangos yn rhyngwladol, lle maent yn cael eu hystyried yn dod i’r amlwg i ganol gyrfa. 

Bydd pob enwebiad a dderbynnir yn cael ei adolygu gan reithgor annibynnol. Byddant yn cydweithio ag Artes Mundi i ddethol artistiaid ar gyfer yr arddangosfa eilflwydd a fydd hefyd yn ffurfio rhestr fer ar gyfer Gwobr AM11. Bydd yr artist buddugol yn derbyn £40,000. 

Yn dilyn llwyddiant Artes Mundi 10, rydym yn falch iawn o barhau â’n cydweithrediad â Sefydliad Bagri fel y Partner Cyflwyno. Mae Artes Mundi a Sefydliad Bagri  yn rhannu ymrwymiad i gefnogi ymarfer celfyddydau gweledol cyfoes rhyngwladol a dyrchafu deialog ynghylch y cysylltiadau rhwng materion lleol a byd-eang. 

Gan ganolbwyntio ar yr ymchwiliad parhaus i’r ‘Cyflwr Dynol’, bydd rhifyn ugeinmlwyddiant AM10 yn parhau’r gynhysgaeth o gyflwyno gwaith neilltuol yng Nghymru i greu cyfleoedd unigryw i unigolion a chymunedau ymgysylltu’n greadigol â materion brys yr oes a hynny mewn ffyrdd sy’n taro deuddeg â phob un ohonon ni. 

Mae enillwyr blaenorol Artes Mundi yn cynnwys Taloi Havini (2024); Firelei Báez, Dineo Seshee Bopape, Meiro Koizumi, Beatriz Santiago Muñoz, Prabhakar Pachpute a Carrie Mae Weems (2021); Apichatpong Weerasethakul (2019); John Akomfrah (2017); Theaster Gates (2015); Teresa Margolles (2012); Yael Bartana (2010); N S Harsha (2008); Eija-Liisa Ahtila (2006) a Xu Bing (2004). 

Mae Artes Mundi hefyd yn partneru ag Amgueddfa Cymru i gaffael gwaith i gasgliad cenedlaethol Cymru o gelfyddyd gyfoes o bob rhifyn o’r arddangosfa eilflwydd. 

Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn Gwobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams Artes Mundi mae Mounira Al Solh (2024); Prabhakar Pachpute (2021); Anna Boghiguian (2019); Bedwyr Williams (2017); Ragnar Kjartansson (2015); Tania Bruguera (2012); Olga Chernysheva (2010); Lisa Abdul a Mircea Cantor (2008); Eija Liisa Ahtila a Mauricio Dias a Walter Riedweg (2006) a Berni Searle (2004). 

Dyddiad cau: 31/05/2024