Heddiw atgoffodd Cyngor Celfyddydau Cymru ymgeiswyr posib bod y ffenest ar gyfer cyflwyno cais i’w Chronfa Ymsefydlogi i Sefydliadau yn cau ymhen ychydig ddyddiau. Mae'r gronfa yn rhan bwysig o gefnogaeth gyffredinol y Cyngor i’r gymuned greadigol yn ystod coronafeirws.
Agorodd y gronfa ar gyfer cyflwyno cais i’r gronfa ar 21 Ebrill a bydd y ffenest ar gyfer cyflwyno ceisiadau yn cau am 5pm, dydd Gwener 8ed Mai, ond y dylid e-bostio unrhyw gwestiynau am y gronfa at grantiau@celf.cymru cyn 5pm dydd Mercher 6 Mai.
Mae'r Gronfa Ymsefydlogi ar gyfer Sefydliadau ar gyfer sefydliadau celfyddydol sy'n profi caledi ariannol neu'n colli incwm oherwydd coronafeirws. Mae hwn yn arian brys yn y tymor byr i alluogi sefydliadau i oroesi'n ariannol ac yn greadigol.
Mae'r gronfa ymsefydlogi yn elfen o gronfa Wytnwch y Celfyddydau a sefydlodd y Cyngor ar y cyd â Llywodraeth Cymru gydag arian o'r Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan Dŷ Cerdd, Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Freelands. Gwerth y gronfa wytnwch i’r celfyddydau yn ei chrynswth yw £7.5 miliwn.
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am roi'r cyfle gorau i artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol oroesi coronafeirws a darparu cefnogaeth iddynt ymsefydlogi a chynnal eu busnes yn ystod y misoedd nesaf.
“Ein gobaith yw y bydd y pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig yn cynorthwyo’r llu o unigolion a gweithwyr creadigol llawrydd sy’n brwydro yn erbyn caledi mawr oherwydd coronafeirws."