Manylion am fod yn Fentor Camau Creadigol
Byddwn wrth ein boddau yn eich gweld yn ymuno fel Mentor.
Bydd disgwyl i’r Mentoriaid:
- cefnogi a helpu ymgeiswyr i lunio eu syniadau’n gynnig llawn
- rhoi arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth i ymgeiswyr cyn ymgeisio i hwyluso eu syniadau datblygu
- cysylltu ymgeiswyr ag unrhyw ymgynghorwyr a allai eu cefnogi ar eu taith
- ymrwymo hyd at 6 awr o'u hamser i gefnogi pob ymgeisydd sydd ganddynt (gall yr amser gynyddu os oes angen ond ystyriwn bob achos yn unigol)
- cadw cofnod cyfredol o bob cyfarfod â’r ymgeisydd gyda manylion am y drafodaeth a chynnydd y syniad
- mynd i bob un o’n sesiynau sefydlu a hyfforddiant
- cynnal perthynas agored a gonest â’n staff
- rhoi inni unrhyw adborth am y broses, yn anffurfiol neu drwy asesiad ffurfiol
Hoffem eich cael yn Fentor os oes gennych brofiad mentora a gallwch:
- cynorthwyo artistiaid a sefydliadau celfyddydol i gyrraedd y cam nesaf yn eu datblygiad proffesiynol a datblygiad eu sefydliad a’u busnes
- gwrando, talu sylw a rhoi adborth adeiladol
- ymrwymo i rannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch arbenigedd
- gweithio gydag ystod eang o bobl sydd â gwahanol brofiad byw a gweithio
- os oes gennych brofiad byw neu brofiad o weithio gyda phobl fyddar, anabl, niwroamrywiol neu sy'n amrywiol yn ethnig a diwylliannol
Sut byddwn yn eich cefnogi?
Byddwn yn:
- rhoi cyflwyniad a hyfforddiant ichi am ein sefydliad a'n prosesau
- eich cefnogi gydag unrhyw anawsterau drwy gydol y broses
- eich talu am eich amser: £150 am hanner diwrnod a £300 am ddiwrnod llawn
Beth yw'r manteision o fod yn Fentor?
Byddwch yn:
- chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi sector celfyddydol Cymru
- ein cefnogi i fynd yn sefydliad mwy cyfartal, cynhwysol ac amrywiol
- dysgu am sut rydym yn gweithio ac am ein prosesau
- cryfhau eich sgiliau, eich arbenigedd a'ch gwybodaeth
- ymgysylltu ag artistiaid a sefydliadau amrywiol, newydd
- ehangu eich rhwydwaith
Ymgeisio
Cyflwynwch Fynegiant o Ddiddordeb (500 gair ar y mwyaf) sy’n nodi pam y byddwch yn Fentor gwych ar gyfer y gronfa. Anfonwch eich Mynegiant yn ddogfen Word, PDF neu fideo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Sut i gyflwyno cais fideo/ sain
5pm ar 6 Rhagfyr 2024 yw’r dyddiad cau.
Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr erbyn 16 Rhagfyr 2024. Os nad ydych wedi clywed erbyn hynny, ni lwyddodd eich cais.
Anfonwch eich Mynegiant at:
Hygyrchedd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig gwybodaeth mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Darllen ac Arwyddeg. Byddwn hefyd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg ar gais.
Os oes gennych ofynion hygyrchedd, dyma ragor am beth y gallwn ei wneud a sut i'w drefnu: Cymorth hygyrchedd
Camau Creadigol
Cronfa gan y Cyngor yw Camau Creadigol sy'n cefnogi artistiaid byddar, anabl, niwroamrywiol ac sy'n amrywiol yn ethnig a diwylliannol a sefydliadau celfyddydol dan eu harweiniad.
Mae'r gronfa’n canolbwyntio ar y grwpiau yma oherwydd bod ymchwil yn dangos nad ydym yn ymgysylltu’n ddigonol â nhw. Mae ymchwil hefyd yn dangos y cawsant anawsterau wrth geisio ein harian gan wynebu rhwystrau a gwahaniaethu.
Mae Camau Creadigol i Unigolion yn cynnig £500-£7,500 i artistiaid i'w cefnogi gyda'u datblygiad personol.
Mae Camau Creadigol i Sefydliadau yn cefnogi sefydliadau celfyddydol â thair lefel wahanol o arian i ddatblygu eu sefydliad a’u busnes:
- Cyfnod Cynnar/Cam Archwiliol (£500-£10,000)
- Ail Gyfnod/Cam Profi a Datblygu (£10,001-£50,000)
- Trydydd Cyfnod/Datblygu Model Busnes Cynaliadwy (£50,001-£75,000)