Mae’r canllawiau ar gyfer y gronfa ‘Ewch i Weld’ bellach wedi’u diweddaru ar ein gwefan: Ewch i Weld | Cyngor Celfyddydau Cymru 

Mae’r gronfa yn cynnig grantiau gwerth hyd at £1,000 i alluogi ysgolion i fynychu digwyddiadau celfyddydol o safon yng Nghymru, boed yn ddrama, berfformiad cerddorol, ymweliad ag oriel neu unrhyw brofiad celfyddydol arall o ansawdd uchel. 

Does dim dyddiad cau i’r gronfa felly ewch ati ar unwaith i lunio’ch cais!