Tocynnau Musicfest 2025 nawr ar werth

Cyhoeddi rhaglen fawr o gyngherddau ar gyfer Gorffennaf 2025

 

Bydd tocynnau ar werth yr wythnos hon ar gyfer cyfres o gyngherddau Musicfest Aberystwyth eleni. Bydd dros ddwsin o gyngherddau a datganiadau yn cael eu cynnal yn Aberystwyth o ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn Awst 2il.

 

Bydd cyfle prin i glywed perfformiad o gampwaith operatig digrif, Serch yw’r Doctor, gan Arwel Hughes a Saunders Lewis. Bydd y perfformiad yn cynnwys Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, dan arweiniad Cyfarwyddwr Artistig Musicfest Iwan Davies, gyda’r unawdwyr Cymreig blaenllaw Fflur Wyn, Robert Lewis, Paul Carey Jones, Steffan Lloyd Owen a Sioned Gwen Davies. Cafwyd y gwaith ei lwyfannu gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol 1960, a bydd y perfformiad cyngerdd unigryw hwn ar nos Wener y 1af o Awst yn bosibl trwy gefnogaeth Cronfa Goffa Saunders Lewis.

 

Bydd yr arwr operatig Syr Bryn Terfel ac Archdderwydd Cymru, Mererid Hopwood, yn ymuno â chantorion ifanc blaengar o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn cyngerdd dathlu i nodi 150 mlynedd ers sefydlu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Bydd y cyngerdd ar nos Lun Gorffennaf 28ain yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwr caneuon celf mwyaf blaenllaw Cymru, Meirion Williams, a geiriau gan rai o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru.  Rhaglen o gerddoriaeth a barddoniaeth sy’n olrhain etifeddiaeth Meirion Williams ac yn dathlu’r dylanwad a gafodd ar y cenedlaethau nesaf o gyfansoddwyr caneuon Cymreig.

 

Bydd cyngherddau eraill yr ŵyl eleni yn cynnwys Sinfonia Cymru, The Art Deco Trio, Cerddorfa Siambr Cymru a’r feiolinydd Sara Trickey. Bydd Jane Austen yn cael ei choffau mewn geiriau a cherddoriaeth gyda’r soprano Claire Booth a’r actor Alex Kingston mewn rhaglen wedi’i churadu gan y pianydd Andrew Matthews-Owen. Bydd y gyfansoddwraig a’r feiolinydd Simmy Singh yn cymryd rhan mewn gwaith theatr cerdd newydd arloesol i blant ar y cyd â Chwmni Theatr Arad Goch, gyda chefnogaeth Ty Cerdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

 

Mae’r rhaglen lawn ar gael i’w gweld ar wefan yr ŵyl: musicfestaberystwyth.org. Mae tocynnau ar werth drwy aberystwythartscentre.co.uk neu drwy ffonio 01970 623232.

 

Wrth gyhoeddi rhaglen yr ŵyl, dywedodd Iwan Teifion Davies, Cyfarwyddwr Artistig:

 

“Bydd Musicfest 2025 yn cynnig gweledigaeth o’r Gymru ddelfrydol, trwy gerddoriaeth. Mae Wythnos yng Nghymru Fydd, nofel arloesol Islwyn Ffowc Elis ym 1957, yn ein gwahodd i ddychmygu’r Gymru yr ydym am ei gweld. Yng nghanmlwyddiant ei eni, ac wedi’i hysbrydoli gan ei themâu allweddol, byddwn yn dod â chymdeithas yn fyw lle dethlir cydraddoldeb, y Gymraeg, a’n perthynas â’r byd o’n cwmpas a chreu profiad unigryw o Gymreictod drwy’n profiad o greu cerddoriaeth a geiriau.

 

“Bydd Perfformio Serch yw’r Doctor yn deyrnged deilwng i ddau o gewri creadigol blaenllaw Cymru’r ugeinfed ganrif, gan nodi 40 mlynedd ers marwolaeth Saunders Lewis, a’r flwyddyn y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i ardal geni Arwel Hughes.”

 

Ychwanegodd Carol Nixon, Cadeirydd Musicfest:

 

“Bydd gan raglen yr ŵyl eleni gysylltiadau Cymreig, gan gynrychioli’r ystod lawn o arddulliau cerddorol, amrywiaeth o berfformwyr, cerddoriaeth newydd gyffrous, gwaith ar gyfer a gyda phobl ifanc, wedi’u perfformio gan artistiaid o’r safon uchaf.

 

“Ers 1986, rydym wedi cynnal cyfuniad cyffrous o ŵyl gerddoriaeth o safon fyd-eang ac ysgol haf, gan ddenu rhestr ryngwladol o artistiaid, athrawon, myfyrwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Archebwch eich tocynnau nawr ac ymunwch â ni am brofiad a fydd yn ŵyl haf anhygoel.”

 

Diwedd

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch ag Emyr Williams emyr.w@btinternet.com neu Joan Rowlands, Gweinyddwr yr Ŵyl ar 01970 612034 neu e-bostiwch musicfest@aber.ac.uk