Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid (21 awr yr wythnos)

Ystod Cyflog: £21,840/£13,104 pro rata

Dyddiad Cau: 06/02/2025

Amdanom ni/Ein Hadran:
Yr Adran Cysylltiadau Cwsmeriaid yw'r pwynt cyswllt cyntaf i bawb sy'n ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae ein hadran yn gyfrifol am ateb holl ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn, drwy e-bost neu gwe-sgwrs yn ein Canolfan Gyswllt ac yn wyneb yn wyneb yn ein man gwybodaeth sydd wedi'i leoli ym mlaen y tŷ. Rydym yn cynnig arweiniad i gwsmeriaid yn ddyddiol ar beth i'w wneud a'i weld yn y Ganolfan, yn ogystal â sut i ddefnyddio ein hoffer hunanwasanaeth ar ein gwefan. Yn ogystal rydym yn helpu'r rhai ag anghenion hygyrchedd ac yn codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid o nodau ein helusen a’n gwaith cymunedol.

Mae arloesi yn bwysig i ni ac yn rhan fawr o'r gwaith a wnawn yn y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. O fewn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi lansio e-docynnau, gwasanaeth cyfnewid tocynnau ar-lein a gwe-sgwrs. Rydym hefyd wedi galluogi archebwyr Grŵp i olygu a thalu am eu harchebion ar-lein. Mae helpu cwsmeriaid i reoli eu harchebion ar-lein a chynnig cyngor a chymorth i’r rhai sydd ag anghenion hygyrchedd yn rhan allweddol o’r rôl hon.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Fel Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid, byddwch yn atebol i'n Goruchwylwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid yn ein Canolfan Gyswllt gan helpu i redeg a chynnal ein gweithrediadau dyddiol ar y safle. Bydd eich swydd yn cynnwys:

  • Defnyddio ein system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (Tessitura), Gwasanaeth Gwe-Sgwrsio, system Ffôn ac E-bost i gyfathrebu a phrosesu gwybodaeth a gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid.
  • Cefnogi'r tîm Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid gyda chynulleidfaoedd sioeau.
  • Defnyddio eich sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu i gynorthwyo ein cwsmeriaid drwy ein sianeli cyfathrebu amrywiol.
  • Gweithio fel rhan o'r tîm gweithredol gyda'n timau Profiad Cwsmer a Bwyd a Diod.
  • Gweithio ochr yn ochr ag adrannau eraill, gan gynnwys ein timau Marchnata a Digidol, Cymunedol, Dysgu Creadigol a Chyllid.

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol:

Disgwylir i’r Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid allu cyfathrebu’n hyderus gyda chwsmeriaid yn y Gymraeg a’r Saesneg trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu amrywiol (dros y ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb). Rhaid i'r ymgeisydd fod yn hyderus wrth gynnig gwasanaeth cwsmer da i gwsmeriaid ag anghenion o ran hygyrchedd. Bydd y mwyafrif o’r shifftiau wedi’u lleoli yn y swyddfa gan ddefnyddio offer sgrin arddangos yn ogystal ag amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu a systemau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer y rhain. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau TG sylfaenol a'r gallu i ddysgu a datblygu rhai newydd.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn cynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser
  • Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
     
Dyddiad cau: 06/02/2025