Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Teitl y Rôl:Cynhyrchydd Dysgu Creadigol

Cyflog: £30,491 - £32,097

Dyddiad Cau: 04 Gorffennaf 2024

Dyddiad Cyfweld: 16 Gorffennaf 2024

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae’r tîm Dysgu Creadigol yn cynhyrchu allbwn creadigol a rhaglenni dysgu CMC ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-25 oed, gyda ffocws ar weithio gyda phobl ifanc sy’n ystyried eu bod yn perthyn i grwpiau nodweddion gwarchodedig Llywodraeth Cymru.

Mae’r tîm yn rhedeg y gofodau Platfform newydd sbon ar gyfer pobl ifanc yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan eu cefnogi i godi eu lleisiau, magu hyder, datblygu sgiliau newydd ar gyfer gwaith a bywyd trwy bŵer trawsnewidiol y celfyddydau a chreadigedd. Rydym yn darparu hyfforddiant arbenigol i bobl ifanc greadigol, mynediad i ddiwydiant a gofod i ymarfer a datblygu gwaith, ynghyd â chyfleoedd i rwydweithio ar draws y meysydd allweddol canlynol: Radio, Perfformio, Cerddoriaeth, Digidol, Sgrin, a Chelfyddydau Gweledol.

Gyda datblygiad presennol ein gofodau stiwdio newydd, bydd y tîm yn parhau i ddarparu hwb ar gyfer bobl greadigol ifanc i fod yn gatalydd i fenter ieuenctid, ac yn fan cychwyn i uchelgais y genhedlaeth nesaf. Boed yn dylunio rhaglen weithdy, yn mynd â grwpiau o bobl ifanc i weld gwaith newydd, neu’n cefnogi hwyluswyr i gyflwyno ein cyrsiau, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gydweithio â phobl ifanc a’u datblygiad, boed yn newydd i’r celfyddydau, neu rywun sy’n chwilio am yrfa yn y diwydiannau creadigol.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

·Hwyluso hygyrchedd i’r celfyddydau a’i fuddion, trwy reoli prosiectau a chymryd rôl cynhyrchydd arweiniol ar agweddau o’n prosiectau dysgu a chyfranogiad, gan gynnwys gweithdai a chyrsiau ar gyfer y cynulleidfaoedd targed allweddol a nodir yn y Strategaeth Dysgu Creadigol, ynghyd â datblygu’r rhaglen a gofodau creu Platfform.

·Yn ystod y 12 mis cyntaf yn eich rôl, byddwch yn cyflwyno'r rhaglen ar gyfer un agwedd o’r Strategaeth Dysgu Creadigol, gan gefnogi'r meysydd eraill, a datblygu ymhellach yr elfen a neilltuwyd i chi yn unol â rhaglen Dysgu Creadigol a Platfform. Bydd hyn yn cynnwys cynyddu’r targed y cytunwyd arno o ran cyfranogwyr newydd, partneriaid a phrosiectau cydweithredol. Datblygu a chynnal perthnasoedd allweddol gyda’r gymuned, asiantaethau ieuenctid a phobl ifanc i hysbysu, ysgogi defnydd, a chryfhau ymgysylltiad â phobl ifanc ledled Cymru yn y dyfodol.

·Mae'r rôl hon yn atebol i'r Uwch Gynhyrchydd Dysgu Creadigol, tra hefyd yn gweithio'n agos gyda'r tîm Dysgu Creadigol ehangach, y timau Celfyddydau a Chreadigol a Chynghorwyr, i ddatblygu'r rhaglen a'r strategaeth gyffredinol. ·Bydd y rôl yn darparu cefnogaeth ar draws holl raglenni a phrosiectau Dysgu Creadigol, a’r heriau sydd i ddod o ran gweithredu’r rhaglen drwy gydol datblygiad gofodau creu Platfform.

·Gellir cyflawni'r rôl hon ar sail gweithio hybrid (yn dilyn cyfnod prawf) ac yn unol â’n polisi oriau hyblyg o fewn gofynion gweithredol rhaglen Dysgu Creadigol.

·Mae'r rôl hon yn gofyn am wiriad DBS manylach.

Gofynion Allweddol:

-Dealltwriaeth arbenigol o'n cynulleidfaoedd targed allweddol (Pobl Ifanc 11-25 oed) gyda golwg benodol ar chwalu rhwystrau i gyrhaeddiad. (e.e. o ardaloedd o amddifadedd, Mwyafrif Byd-eang, pobl ifanc y tu allan i addysg brif ffrwd.)
-Mae'r gallu a'r parodrwydd i weithio gyda'r nos, ar benwythnosau ac i deithio ledled Cymru a'r DU yn hanfodol, gan gynnwys aros dros nos ar leoliad yn ôl yr angen.
-Gwybodaeth, dealltwriaeth ac angerdd dros: ddysgu heb fod yn ffurfiol / hunan-gyfeiriedig, ymgysylltu â phobl ifanc o bob gallu, datblygiad a chyfranogiad cymunedol.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr yr wythnos, pro rata ar gyfer oriau rhan amser.
  • Cynllun pensiwn uwch.
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Dyddiad cau: 04/07/2024