1. Cyflwyniad 

Mae Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Sir Powys wedi dethol deg sefydliad i dderbyn £675,000 o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin sy’n canolbwyntio ar gefnogi cadernid, cynaliadwyedd a thrawsnewidiad oddi fewn i’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol ym Mhowys. Daw’r arian â’r sefydliadau ynghyd mewn rhwydwaith dysgu cymheiriaid cydweithredol yn ystod gweddill 2024 i gefnogi’r sefydliadau i gyflenwi eu prosiectau.

Rydym am gomisiynu asiantaeth i ddarparu diwrnod hyfforddi i’r sefydliadau, gan ganolbwyntio ar  Cynulleidfa ac Ymgynghorwyr datblygu ochr yn ochr â darparu mentora un i un i’r sefydliadau (o leiaf 3 awr i bob sefydliad). Dymunwn redeg y diwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb cyn gynted ag sy’n bosibl yn Mis Medi/Hydref.

2. Rheoli

Y cleient ar gyfer y prosiect yw Cyngor Sir Powys.

Caiff y prosiect ei reoli gan Alice Briggs Rheolwr Prosiect – grant celfyddydau y Gronfa Ffyniant Gyffredin

3. Sgiliau 

Rhaid i’r arbenigwr allanol gael:

  • Profiad ac arbenigedd fel asiantaeth cynulleidfa ac ymgynghorwyr ymgysylltu/gwerthuso
  • Hanes cryf o ran cyflwyno hyfforddiant o fewn y maes cynulleidfa, ymgysylltu a gwerthuso, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y celfyddydau a'r sector diwylliannol.

4. Dylai arbenigwyr allanol sy’n dymuno cael eu hystyried gyflwyno’r canlynol:

  • Dyfynbris am y gwaith.
  • Dadansoddiad o’r costau.
  • Amlinelliad o sgiliau proffesiynol a phrofiad a ddaw gyda’r arbenigwr allanol.
  • Enghreifftiau o waith tebyg yr ymgymerwyd ag e.
  • Geirdaon (2). 

Dylech anfon ceisiadau i alice.briggs@powys.gov.uk  

Erbyn 5yp, 3ydd Gorffennaf 2024

5. Amserlen y Prosiect

Disgwyliwn i'r diwrnod hyfforddi gael ei gyflwyno ym mis Medi neu fis Hydref, gyda'r mentora 1-i-1 yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Tachwedd 2024.

6. Cyllideb y Prosiect

£4000 ac eithrio TAW

7. Meini Prawf Gwerthuso

Caiff y meini prawf canlynol eu defnyddio i werthuso’r cyflwyniadau briff:

  • 40% - gwerth ariannol y dyfynbris.
  • 60% - gwybodaeth ansoddol wedi ei dadansoddi fel a ganlyn:
  • 30% - asesiad arbenigedd / gwaith tebyg yr ymgymerwyd ag e.
  • 30% - datganiad dull sy’n amlinellu’r dull gweithredu.
Dyddiad cau: 03/07/2024