Yn ôl gwerthusiad newydd, mae’r côr wedi gwella’n fawr iechyd corff a meddwl pobl sydd â’r clefyd.

Mae’r cynllun peilot, ParkinSings, ag arian y Loteri Genedlaethol drwy gronfa Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ailagor heddiw am geisiadau. Mae’n archwilio gallu grwpiau canu i reoli symptomau ac effaith emosiynol y clefyd. Clefyd Parkinson Cymru sydd wedi'i gyflwyno mewn partneriaeth â Choirs for Good. Rhwng Ionawr ac Ebrill 2025, croesawodd y prosiect 49 o bobl sydd â'r clefyd a'u gofalwyr mewn tri lle yng Nghymru. Diwedd y prosiect oedd perfformiad yn y Senedd ar 1 Ebrill i nodi dechrau Mis Clefyd Parkinson y Byd.

Mae data o arolwg ar ddechrau a diwedd y cynllun yn dangos gwelliant lles clir. Nododd y rhai a oedd yn rhan o’r cynllun welliant o 20% mewn iechyd corff a chynnydd o 24% wrth reoli eu llais a’i gryfhau. Roedd 95% yn teimlo bod eu llais wedi gwella. Dywedodd 97%, gan gynnwys gofalwyr, fod eu lles, eu pryder a’u hiselder wedi gwella o ganlyniad uniongyrchol i'r côr.

Roedd yn unigryw. Daeth grŵp ohonom at ein gilydd a chreu rhywbeth rhyfeddol o ddim byd. Yr unig offeryn oedd gennym oedd ein llais. Cawsom ein grymuso.

Aelod o ParkinSings

Mae'r trefnwyr yn awyddus i barhau â'r côr ac ehangu ei gyrhaeddiad yng Nghymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cadarnhau’r arian am gam nesaf ParkinSings.

Meddai Ruth Haugen, Rheolwr Effaith ac Arweinydd Côr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe i Choirs for Good: "Mae wedi dangos pa mor drawsnewidiol y mae canu grŵp yn gallu bod i bobl sy'n byw gyda salwch hirdymor. Rydym wedi gweld pobl yn magu hyder, cryfhau eu llais a gwneud ffrindiau newydd. Mae’n profi bod canu mewn grŵp yn cael effaith fawr ar ein lles".

Dywedodd Rosie Dow, Pennaeth Celfyddydau, Iechyd a Lles Cyngor Celfyddydau Cymru: "Rydym yn falch o weld tystiolaeth gadarn o'r gwahaniaeth y mae creadigrwydd yn ei wneud i iechyd a lles pobl. Dim ond un enghraifft yw’r cynllun ac mae sawl prosiect rydym yn eu hariannu drwy gronfa Loteri y Celfyddydau, Iechyd a Lles. Bydd y gronfa’n ailagor heddiw. Hoffwn annog partneriaethau ledled Cymru i ymgeisio â syniadau beiddgar a chynhwysol i ddefnyddio'r celfyddydau i wella iechyd a lles pobl a chryfhau ein cymunedau." 

Mae rhagor am y cynllun a’r gwerthusiad yma.
 

Dysgwch ragor am gronfa Loteri y Celfyddydau, Iechyd a Lles ac am sut i ymgeisio, drwy fynd i tydalen yma.