Mae’r Cyngor wedi buddsoddi bron i £5.5 miliwn i helpu artistiaid a sefydliadau celfyddydol sydd dan bwysau i'w hamddiffyn rhag colli incwm yn sgil y feirws. Lansiodd y Cyngor gronfa wytnwch ddechrau Ebrill ac mae cam cyntaf y buddsoddiad erbyn hyn wedi’i orffen.
Darparwyd y gefnogaeth o gronfa’r Cyngor werth £7.5 miliwn gyda chymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cafodd y gronfa argyfwng ei chynorthwyo hefyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, haelioni Sefydliad Freelands a chyfraniadau oddi wrth Tŷ Cerdd a Llenyddiaeth Cymru.
Gan siarad heddiw,dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Pan ddaeth y feirws, roedd yn rhaid inni weithredu ar fyrder i ddiogelu'r celfyddydau. Dros nos diflannodd incwm sefydliadau celfyddydol pwysig a diflannodd cyfleoedd ennill cyflog i weithwyr llawrydd. Ers Ebrill, mae ein staff yn gweithio’n ddi-dor i gael ein harian argyfwng i'r lleoedd mae ei angen fwyaf. Mae gweithwyr celfyddydol yn bryderus o hyd am y dyfodol, ond rydym ni wedi prynu amser iddynt nes cawn ateb hir dymor."
Hyd yma, rydym ni wedi rhoi bron i £5.5 miliwn i artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau celfyddydol. Mae 616 grant gwerth dros £2 miliwn wedi mynd i unigolion a thros £3 miliwn i wahanol sefydliadau.
Heddiw, meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:
"Mae cyflymder ac effeithlonrwydd staff Cyngor Celfyddydau Cymru wrth ddosbarthu grantiau drwy'r gronfa wytnwch yn gamp aruthrol. Yn ystod y misoedd diwethaf rydym ni wedi clywed am yr angen ymhlith artistiaid, ymarferwyr llawrydd a sefydliadau celfyddydol. Mae'r gronfa wedi helpu llawer nad allent gael cymorth o ffynonellau eraill.
"Mae hefyd yn beth braf bod y gronfa wedi cyrraedd artistiaid newydd nad oedd ganddynt fawr o gysylltiad â’r Cyngor o'r blaen. Mae gan sector y celfyddydau swyddogaeth hanfodol wrth adfywio cymdeithas ac economi Cymru wrth ddechrau cefnu ar y cyfnod cloi."
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Prydain becyn cymorth o £1.57 biliwn i sectorau'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth ym Mhrydain gyda £59miliwn i ddod i Gymru trwy fformiwla Barnett.
Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr y Cyngor:
"Roeddem ni’n falch o gynnig y gefnogaeth gychwynnol ond nawr mae’r gwaith caled yn dechrau. Bydd gweddill yr arian o'r cam cyntaf yn cael ei ddefnyddio i dalu am weithgareddau am weddill y flwyddyn. Yn y misoedd nesaf, daw diwedd ar gynlluniau cymorth Prydain a’r arian i roi gweithwyr ar seibiant. Rhaid inni weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd brys o sicrhau goroesiad sector sy'n cyfrannu cymaint at ein lles a'n hansawdd bywyd."