Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cadarnhau rhai o'r wynebau newydd fydd yn ymuno â'i uwch dîm wrth i ailstrwythuro'r sefydliad gymryd cam ymlaen.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Hannah Raybould fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Phartneriaethau
  • Rosie Dow fel Pennaeth y Celfyddydau, Iechyd a Lles
  • Hannah Jenkins fel Pennaeth Pobl Ifanc a Sgiliau

Mae dau aelod o staff wedi symud i swyddi newydd: Lisa Matthews-Jones, sydd bellach wedi'i chadarnhau fel Dirprwy Gyfarwyddwr y Celfyddydau, a Louise Wright a fydd yn ymgymryd â rôl newydd fel Pennaeth y Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol.

Dywedodd Dafydd Rhys, Catryn Ramasut a Lorna Virgo, Tîm Arwain Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru, 

"Rydym yn falch iawn o fod wedi denu yr unigolion talentog hyn i’r tîm. Bydd eu dyfnder o brofiad yn helpu i lunio dyfodol y celfyddydau yng Nghymru. Derbyniodd Cyngor Celfyddydau Cymru dros 2,000 o geisiadau am gyllid y llynedd yn unig, a chefnogi cannoedd o sefydliadau ac artistiaid i ddod â phrosiectau beiddgar, creadigol ac effeithiol yn fyw. Nid cynnal ein rhaglenni presennol yn unig yw bwriad y penodiadau hyn – bydd angen iddynt fod yn allwedd i ddatgloi posibiliadau newydd, hyrwyddo arloesedd, a sicrhau bod y celfyddydau yn parhau i synnu, i herio ac ysbrydoli."

 

Mae'r gwaith o recriwtio i’r swyddi Pennaeth Dawns, Pennaeth Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio a Phennaeth Cerddoriaeth yn parhau.

Mae'r newidiadau i strwythur staffio Cyngor y Celfyddydau mewn ymateb i adborth gan y sector eu bod eisiau i’r Cyngor gynnig rhagor o sylw fesul ffurf gelfyddydol a chynnig mynediad haws at arbenigedd a gwybodaeth benodol pan fo angen.

Dan arweiniad Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Catryn Ramasut, mae'r gyfarwyddiaeth Celfyddydau wedi'i hailstrwythuro wedi'i chynllunio i gryfhau'r ddarpariaeth ar draws rhaglenni allweddol a hyrwyddo rhagoriaeth yn y ffurfiau celf gwahanol.  

Bydd y Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb a Phartneriaethau, Hannah Raybould, yn goruchwylio timau sy'n arwain meysydd blaenoriaeth trawsbynciol Cyngor y Celfyddydau (Celfyddydau ac Iechyd, Pobl Ifanc a Sgiliau, Dysgu Creadigol,  ac Ymgysylltu a Chymunedau gan gynnwys Noson Allan). Bydd y Dirprwy Gyfarwyddwr Celfyddydau, Lisa Matthews, yn gyfrifol am dimau ffurfiau celf (Cerddoriaeth, Theatr, Celfyddydau Perfformio a Theithio, Celfyddydau Gweledol a Chymhwysol, Dawns ac Arloesi, Celfyddydau Digidol a Rhyngddisgyblaethol). 

Ychwanegodd y Tîm Arwain Gweithredol,

"Rydyn ni'n gwneud cynnydd mawr gyda'r recriwtio ac yn gyffrous bod y trawsnewidiad i'n strwythur newydd eisoes ar y gweill. Rydym yn disgwyl cwblhau'r broses erbyn mis Ionawr, a fydd yn ein rhoi mewn sefyllfa gryf ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

“Hoffem estyn ein diolch diffuant i gydweithwyr a fydd yn symud ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn am eu cefnogaeth barhaus i helpu i sicrhau trosglwyddiad llyfn.

Nid oes angen i’r sefydliadau ac unigolion rydyn ni'n gweithio gyda nhw gymryd unrhyw gamau nawr - byddwn yn rhoi gwybod i bawb os a phan fydd eu cysylltiadau yn newid."