Mae rhaglen flaenllaw Dysgu Creadigol Cymru, Profi’r Celfyddydau, wedi derbyn £150,000 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn galluogi’r rhaglen i ehangu cyrhaeddiad a gwella mynediad at gyfleoedd celfyddydol a diwylliannol i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Bydd y buddsoddiad newydd, sy’n cefnogi'r gwaith o gyflawni Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant, yn targedu dysgwyr o gymunedau difreintiedig a'r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y cyllid yn canolbwyntio ar chwalu’r  rhwystrau sy’n bodoli i blant a phobl ifanc wrth gael mynediad at ddiwylliant a'r celfyddydau. 

Mae data Cyngor y Celfyddydau yn dangos bod angen gwella’r cyfleoedd i ymgysylltu â’r celfyddydau ym Mlaenau Gwent, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae'r cyllid ychwanegol yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen Profi'r Celfyddydau. Yn nhymor cyntaf y flwyddyn ysgol 2025/26 yn unig, cymeradwyodd y rhaglen 219 o geisiadau, ac mae disgwyl i’r rheiny fod o fudd i 14,586 o ddysgwyr trwy’r ddwy gronfa: Ewch i Weld (ymweliadau â'r celfyddydau) a Rhowch gynnig arni (cyfranogiad yn y celfyddydau mynegiannol). 

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru: 

"Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn ei gwneud hi'n bosibl i gyllid Ewch i Weld a Rhowch gynnig arni i fynd ymhellach, gan ddyfnhau effaith a gwella mynediad i'r rhai sydd wedi wynebu rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau yn hanesyddol. 

"Mae'n gam hanfodol tuag at sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru, waeth beth fo'u cefndir neu anghenion dysgu, yn gallu elwa o rym trawsnewidiol y celfyddydau." 

I wneud cais, cliciwch yma

Hygyrch, cynhwysol, amrywiol

Mae Dysgu Creadigol Cymru yn cyflwyno rowndiau ariannu pwrpasol sydd wedi'u cynllunio i:

  • Gefnogi ysgolion mewn Awdurdodau Lleol sydd â lefelau hanesyddol is o gyfranogiad yn y celfyddydau;
  • Gefnogi ysgolion sydd â chanran uchel o ddysgwyr sy'n profi rhwystrau penodol i gyfranogi er enghraifft, anghenion dysgu ychwanegol (ADY), dysgwyr niwroamrywiol, gofalwyr ifanc neu blant mewn gofal.
  • Mae'r gwelliannau strategol hyn yn cyd-fynd â chyllid Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant yn 2025-2026, gan gyflawni yn erbyn uchelgeisiau un a phedwar yn y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, yn benodol:

• Mae diwylliant yn hygyrch, cynhwysol ac amrywiol.

• Mae diwylliant yn adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc ac yn cryfhau'r cysylltiad rhwng cenedlaethau.

Ynglŷn â'r rhaglen Profi’r Celfyddydau

Mae Profi’r Celfyddydau yn rhan o raglen ehangach Dysgu Creadigol Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. 

Ewch i Weld 

Mae'r Gronfa Ewch i Weld yn cynnig grantiau hyd at £1,000 i alluogi athrawon mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru i fynd â'u dysgwyr i weld celf o ansawdd uchel mewn lleoliadau ledled Cymru. Gall athrawon ddefnyddio'r gronfa i dalu am gost tocynnau a thrafnidiaeth hyd at £1,000 i dalu hyd at 90% o gostau ymweliadau i ddysgwyr 3-16 oed.

Rhowch Gynnig Arni

Mae Rhowch Gynnig Arni yn cynnig grantiau o hyd at £1,500 ac mae wedi'i gynllunio i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr 3 – 16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy ymarferol untro i gefnogi ysgolion i ddarparu'r Maes Dysgu a Phrofiad Celfyddydau Mynegiannol. Mae'r gronfa yn cwmpasu pum disgyblaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol a cherddoriaeth. Gall ceisiadau gael eu gwneud gan ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth, unedau cyfeirio disgyblion a/neu sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru.