Ydych chi'n arweinydd ysgol sy'n awyddus i gael cefnogaeth i ddefnyddio ffyrdd arloesol a chreadigol i fywiogi’r cwricwlwm newydd mewn ffyrdd dilys a deniadol i'ch disgyblion? 

Ydych yn barod i gynyddu eich sgiliau arwain yn eich ysgol? 

Hoffech gael yr amser i roi cynnig ar wahanol ffyrdd o addysgu a dysgu yn eich ysgol i asesu beth sy'n ennyn diddordeb eich disgyblion? 

Ydych wedi’ch llethu gan faint o newid sydd yn y system addysg ar hyn o bryd? 

Hoffech gael cyfaill beirniadol i'ch helpu i wneud synnwyr o’r cyfan?

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn falch o ail-lansio cyfle cyffrous i reolwyr canol/uwch-reolwyr ysgol gyda chymeradwyaeth yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol i gefnogi arweinwyr i ddatblygu arweinyddiaeth greadigol yn eu hysgol. 

Nod y rhaglen yw annog hyder mewn ffyrdd newydd o weithio, arloesi, meddwl a bod yn wydn a datblygu dealltwriaeth hefyd o greadigrwydd yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, y pedwar diben a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arwain. O fewn y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i feddwl yn onest am eu harferion a'u cyd-destun proffesiynol a nodi'r rhwystrau a allai amharu ar eu gallu i ddod yn arweinwyr creadigol.

Arweinyddiaeth Greadigol

Beth fydd yn y cynnig?

Mae'r rhaglen yn dechrau â hyfforddiant deuddydd gan dîm Arweinyddiaeth Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru. Yna bydd pob cyfranogwr yn cael ei baru ag Asiant Creadigol, yn seiliedig ar anghenion yr arweinydd, yr ardal ac iaith yr ysgol i ffurfio partneriaeth waith barhaus dros y 18-20 wythnos.

Bydd yr Asiant Creadigol yn hyfforddwr arweinyddiaeth greadigol a chyfaill beirniadol. Bydd yn atgyfnerthu egwyddorion arweinyddiaeth greadigol a chymryd rhan mewn deialog barhaus a chefnogol ac adfyfyriol. Mae hefyd dau gyfle rhwydweithio i rannu cynnydd a chael cefnogaeth gan eraill yn y rhaglen. Mae sesiwn derfynol i rannu popeth a oedd wedi’i ddysgu a fydd yn gyfle i ffurfio rhwydwaith parhaus. Mae’n ofyniad hanfodol eich bod yn ymrwymo i dreulio 3 diwrnod gyda’ch Asiant Creadigol yn ystod yr ymholiad. Peidiwch â phoeni, gellir trefnu hyn i fod yn hyblyg i gyd fynd â’ch ymrwymiadau. 

Arian a chefnogaeth:

Bydd pob arweinydd ysgol yn cael costau cyflenwi i fynd i’r digwyddiad hyfforddi, cyfarfodydd rhwydweithio a digwyddiadau rhannu. Rhaid ichi fynd i’r diwrnodau hyfforddi, y digwyddiadau rhwydweithio a'r digwyddiad rhannu. Bydd pob cyfranogwr yn cael ei hyfforddi gan yr Asiant Creadigol dros y 18-20 wythnos. Nid oes grant uniongyrchol yn mynd i ysgolion.

Gallu ymgeisio?

Mae’r ddarpariaeth hon yn bennaf ar gyfer y rheini sydd mewn rolau arweinyddiaeth ganol neu uwch, neu’n dymuno gwneud hynny, er ein bod yn annog ymwybyddiaeth o arweinyddiaeth ym mhob rôl. Mae ar gyfer arweinwyr dysgu ym mhob Maes Profiad a Dysgu ac nid y Celfyddydau Mynegiannol yn unig. Rhaid ichi hefyd fod mewn lleoliad blynyddoedd cynnar neu ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru i fod yn gymwys.

Byddem yn croesawu'n arbennig derbyn datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol.
 

Sut i ymgeisio:

Sesiwn wybodaeth

Isod mae recordiad o'n sesiwn wybodaeth:

Dogfen27.09.2024

Manylion llawn y rhaglen

Amserlen:

Dyddiad cau i fynegi diddordeb: Hanner dydd 7 Tachwedd 2024

Hyfforddiant i uwch-reolwyr/rheolwyr canol: 11 a 12 Chwefror 2025

Digwyddiadau rhwydweithio (ar-lein): 19 Mawrth a 15 Mai 2025

Digwyddiad rhannu: 18 Mehefin 2025

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm Dysgu Creadigol: 

karen.dellarmi@celf.cymru

lora.winfield-young@celf.cymru

shaun.featherstone@celf.cymru

I glywed am ein holl gyfleoedd newydd, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr drwy glicio: Cylchlythyr.