Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Artistig (Prif Weithredwr ar y Cyd).
Rydym yn chwilio am rywun gyda gweledigaeth arbennig, sydd â sgiliau creu, strategol ac eiriolaeth cadarn.
Bydd gennych hanes blaenorol o adnabod talent, meithrin cydweithio artistig a hyrwyddo dawns ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.
Bydd gennych ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ac yn frwd dros gysylltu â chynulleidfaoedd a chyfranogwyr gan eu hamrywio a'u datblygu.
Byddwch mwy na thebyg wedi gweithio yn y maes celfyddydau a/neu trydydd sector ac wedi arfer arwain timau deinamig.
Rydym yn cydnabod gwerthoedd cadarnhaol amrywiaeth. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu, a gan ein bod eisiau adlewyrchu'r gymdeithas lle rydym yn byw a gweithio, rydym yn croesawu'n arbennig, geisiadau gan bobl b/Byddar ac anabl ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Am ragor o wybodaeth a phecyn ymgeisio mewn amrywiol fformatau, ewch i'n gwefan. Mae'r pecyn yn egluro sut i gysylltu â'r Cadeirydd am sgwrs gychwynnol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd, dydd Mawrth 29 Hydref 2024.
Cwmni Cyfyngedig cofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419
Elusen Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227