Termau:

  • Teitl Swydd: Cydlynydd: Ymgysylltu Creadigol + Chelfyddydau’r Awyr Agored
  • Yn adrodd i: Uwch Gynhyrchydd
  • Contract: Parhaol yn dilyn cyfnod prawf o 6 mis
  • Oriau: Llawn-amser, 37.5 awr yr wythnos (peth gwaith min nos/penwythnos a theithio yn ddisgwyliedig, a chynigir TOIL)
  • Lleoliad: Caerdydd, gyda gweithio hyblyg a theithio yn y Deyrnas Unedig/yn rhyngwladol yn gyson
  • Cyflog Cychwynnol: £25,000 y flwyddyn
  • Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn + a Gwyliau Banc statudol
  • Dyddiad cau: 03 Awst 2025 (Hanner nos)

Y Rôl:

Ydych chi’n rhywun sy’n dod â fflach greadigol a threfn dawel i’ch gwaith? A ydych yn ffynnu ar gynlluniau clir a llawenydd annisgwyl? A ydych wedi eich cyffroi gan theatr sy’n digwydd yn yr awyr agored, mewn mannau cymunedol, ac mewn ffyrdd sy’n croesawu pawb? 

Swydd lefel mynediad yw hon, sy’n ddelfrydol i rywun sy’n cychwyn arni yn cynhyrchu neu gydlynu’r celfyddydau, gyda chefnogaeth a dysgu yn rhan ohoni. Byddwch yn rhan o dîm bychan cydweithredol sy’n darparu theatr stryd a phrosiectau cyfranogol sy’n cynnwys artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. 

Yn y swydd hon byddwn yn: 

  • Cefnogi cynllunio a chyflawni ein rhaglen theatr stryd, gan helpu i reoli amserlenni, logisteg a chyfathrebu
  • Gweithio ochr yn ochr ag Actorion Hijinx a’u rhwydweithiau cefnogi i sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan lawn mewn prosiectau creadigol
  • Cynorthwyo i drefnu sioe Nadolig flynyddol Odyssey, cynhyrchiad llawn llawenydd, dan arweiniad y gymuned a wneir yma yng Nghaerdydd.
  • Helpu’r tîm Theatr i gadw’n drefnus a chadw cysylltiadau, gan gefnogi’r Uwch Gynhyrchydd gyda gwaith gweinyddol o ddydd i ddydd, dogfennu a chynllunio 

Byddwch yn gweithio agosaf gyda’r Uwch Gynhyrchydd, ond byddwch hefyd yn cydweithio gyda’n Cyfarwyddwr Artistig, Rheolwr Cynhyrchu, a phartneriaid prosiect eraill. Nid oes arnoch angen llwyth o brofiad – dim ond greddf dda, gofal a pharodrwydd i ddysgu. 

Pecyn Swydd:

Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.

Os hoffech y pecyn recriwtio mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni: jobs@hijinx.org.uk

I Wneud Cais:

Os ydych yn credu eich bod yn addas i’r rôl ac yr hoffech wneud cais, anfonwch y canlynol atom:

  • CV cyfredol sy’n sôn am eich profiad gwaith hyd yma – gwnewch yn siŵr eich bod yn amlygu profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Llythyr eglurhaol – nad yw’n hwy na dwy ochr – sy’n dweud wrthym pam yr ydych yn ymgeisydd delfrydol a sut byddwch yn mynd ati i gyflawni cyfrifoldebau’r rôl. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
  • Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi’i llenwi – y dylid ei llenwi ar-lein yma – cadarnhewch yn eich llythyr eglurhaol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.

Dylid anfon ceisiadau i jobs@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau: hanner nos 03 Awst 2025.

Rydyn ni’n gwybod y gall ymgeisio am swyddi deimlo’n llethol weithiau – yn enwedig os nad yw prosesau safonol bob amser yn gweithio i chi. Os nad ysgrifennu yw eich hoff ffordd o gyfathrebu, gallwch anfon fideo neu ffeil sain atom (hyd at 5 munud) yn lle llythyr eglurhaol ysgrifenedig.
 

Dyddiad cau: 03/08/2025