Prif bwrpas y rôl:
Arwain, datblygu a chyflwyno strategaeth farchnata a chyfathrebu ar gyfer Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, gan gynnwys ymgyrch aml sianel ar y cyfryngau cymdeithasol, i gyrraedd targedau cynulleidfa ac ariannol, ac i godi proffil y sefydliad a’i weithgarwch. Cyflawnir hyn drwy gyflawni gweithgarwch marchnata ar draws y cyfryngau digidol, y wasg, print a chyfryngau eraill.
Bydd y Cydlynydd Marchnata a Chyfathrebu yn gyfrifol am yr holl weithgareddau marchnata o ddydd i ddydd. Nhw fydd yr unig weithiwr marchnata ond byddant yn gweithio gyda thîm o wirfoddolwyr gan gynnwys y gweithgor cyfathrebu.
Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth a phrofiad helaeth o ddefnyddio dulliau marchnata digidol cyfredol, gan gynnwys hyrwyddo digwyddiadau gan ddefnyddio hysbysebion cyfryngau cymdeithasol taledig.
Perthnasoedd gwaith: Rheolwr Gweithrediadau, Gweithgor Cyfathrebu, Bwrdd Sefydlog, Partneriaid Allanol, Cyfarwyddwr Artistig, Rheolwr Codi Arian, Gweinyddwr Arweiniol, Cydlynydd Digwyddiadau Arweiniol