Ers 1947 mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi defnyddio’r celfyddydau i ddod â gwahanol bobloedd ynghyd mewn ysbryd o heddwch a chyfeillgarwch. Mae dros 300 o wirfoddolwyr gweithgar yn gweithio gyda ni gydol y flwyddyn i gyflwyno ein gweithgareddau, ac mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â ni fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr i gefnogi’r tîm hwn.
Bydd y rôl amlweddog hon yn gweithio ar draws recriwtio, hyfforddi, amserlennu a chefnogi ein rhwydwaith gwirfoddolwyr ymroddedig. Fel Cydlynydd byddwch yn defnyddio eich sgiliau rhyngbersonol a threfnu cryf i ffurfio pwynt cyswllt allweddol ar gyfer gwirfoddolwyr ar draws y sefydliad.
Mae gennym bresenoldeb gwirfoddol rheolaidd yn ein swyddfeydd, ac mae angen cefnogaeth bersonol ar gyfer y swydd. Rhaid i ymgeiswyr felly fyw o fewn pellter cymudo, a disgwyl bod yn gweithio mewn swyddfa yn bennaf.