Ar y cwrs undydd hwn byddwch yn dysgu sut i greu cynnwys fideo gyda ffôn symudol a’r ap VN Editor (sy’n rhad ac am ddim). 

Bydd y cwrs ymarferol hwn yn cynnwys:

  • sut i gynllunio fideo
  • sut mae ffilmiau yn adrodd storïau
  • fformatiau fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
  • sut i gael y saethiadau sydd eu hangen
  • ffilmio cyflwyniadau a chyfweliadau
  • golygu ac ychwanegu troslais, cerdd a theitlau
  • rhannu eich fideo

a llawer mwy.  

Byddwch yn gweithio mewn grwpiau bychan i gynllunio, ffilmio a golygu dilyniannau byr. 

Arweinir y cwrs gan Tom Barrance, addysgwr profiadal sydd wedi darparu hyfforddiant fideo symudol ar gyfer sefydliadau a busnesau ledled y DU ac yn Ewrop. 

26 Ebrill 2024, 9.30-4.30

One Canal Parade, Dumballs Road, Caerdydd

Dyddiad cau: 19/04/2024