MTW yn chwilio am grewyr cerddoriaeth i ymuno â’n rhaglen Cyfeiriadau'r Dyfodol i weithio yn RCT ar sail lawrydd o fis Medi 2024 i Orffennaf 2025.

Mae’r rôl wedi’i chynllunio ar gyfer cerddorion o unrhyw oedran gyda brwdfrydedd i gydweithio, ac rydym yn awyddus i groesawu pobl sydd wedi profi rhwystrau yn eu gyrfaoedd. Nid ydym yn chwilio’n benodol am gerddorion sydd â phrofiad o opera, theatr gerddorol neu gerddoriaeth glasurol – rydym yn hoffi gweithio gyda chreadigion sy’n awyddus i archwilio adrodd straeon mewn cerddoriaeth drwy unrhyw genre cerddorol ac mewn ymateb i’r gerddoriaeth a’r testun a grëir gan y bobl ifanc.

Yn awr yn ei drydedd flwyddyn, Cyfeiriadau'r Dyfodol yw rhaglen pobl ifanc MTW sy’n archwilio sut y gall opera ddod yn ffurf fynegol bwerus i bobl o bob cefndir a hunaniaeth. Gan weithio mewn cydweithrediad ag artistiaid proffesiynol, bydd grŵp o bobl ifanc, niwroamrywiol rhwng 16 a 25 i ddyfeisio a chreu opera ddigidol newydd, gan archwilio eu syniadau a dysgu oddi wrth ac yn ysbrydoli ei gilydd a’r artistiaid cymorth. Cyflwynir y prosiect a’r opera ddigidol yn ddwyieithog yn Saesneg/Cymraeg.

Cytundeb: Cytundeb llawrydd am tua 12 mis (yn ddibynnol ar ddyddiad cychwyn), yn cwmpasu'r prif weithdai, preswylfeydd, a chynhyrchu/golygu'r gerddoriaeth.

Wedi'i leoli yn: Mae'r rôl hon yn cyfuno gweithio o bell/gartref gyda sesiynau wyneb yn wyneb. Tra bydd llawer o'r gwaith yn gallu cael ei gyflawni o bell, bydd y sesiynau ymarferol a'r preswylfeydd yn digwydd ar leoliad yn ardal RhCT. Yn ogystal, mae swyddfeydd MTW yng nghanolfan Chapter, Caerdydd, a gallai fod angen rhai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn swyddfeydd MTW.

Ffi: £5,000 am y cytundeb llawn ac am gwblhau a chyflwyno’r opera ddigidol.

Bydd treuliau rhesymol a gytunwyd ymlaen llaw yn cael eu had-dalu – bydd y rhain yn cael eu trafod a’u cytuno yn seiliedig ar leoliad cartref/gweithio’r creuwr cerddoriaeth.

Buddion: Mae MTW yn cynnig Rhaglen Cymorth i Weithwyr trwy Health Assured, sy’n darparu cymorth iechyd a llesiant i unrhyw un sy’n gweithio i MTW ar sail barhaol, llawrydd neu wirfoddol.

Mae MTW wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a bydd yn gweithio’n agos gyda’r creuwr cerddoriaeth i sicrhau bod eu hanghenion yn y maes hwn yn cael eu diwallu. Bydd hyfforddiant diogelu cydnabyddedig yn cael ei ddarparu a’i dalu fel rhan o’r rôl.

Mae'r fanyleb llawn ar gyfer y swydd a'r person, ynghyd â manylion pellach am amserlen y prosiect, i'w gael yma: Mae MTW yn chwilio am grewyr cerddoriaeth i gydweithio â phobl ifanc i greu opera ddigidol newydd | Music Theatre Wales

Byddwn yn cynnal sesiwn gwybodaeth anffurfiol / C&A ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin o 11yb i 12 hanner dydd. Dyma gyfle i ddysgu mwy am y rôl, am Music Theatre Wales a’n rhaglen Cyfeiriadau'r Dyfodol, ac i ofyn cwestiynau. Cofrestrwch yma: Future Directions music-creator information session (google.com)

Dyddiad cau: 12/07/2024