Creu Cymru Cwiar, Cysylltu Pobl! Cyfres o weithdai a sgyrsiau ar-lein gan On Your Face (OYF) mewn partneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian

Mae Cymru’n gartref i amrywiaeth o bobl cwiar. Ar gyfer y prosiect hwn, mae On Your Face am wneud lle a thynnu sylw at y bywydau, y straeon a’r lleisiau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, er mwyn dangos yr amrywiaeth a’r croestoriad o hunaniaethau o fewn cymuned LHDTC+ Cymru.

Dros un flwyddyn, bydd On Your Face mewn partneriaeth â Glynn Vivian yn cynnal gweithdai a sgyrsiau ar-lein misol a arweinir gan bobl greadigol cwiar.

 

Ar ddydd Mercher diwethaf y mis, byddwch yn clywed am eu harferion creadigol, yn dysgu sgiliau newydd ac am wahanol ffyrdd o weithio gyda deunyddiau a chreu celf.

O weithdai ysgrifennu i greu eich inc eich hun, i gerflunio â chardbord a rhoi cynnig ar gelf perfformio.

 

2024

Mai 29ain - Mae eich stori yn ffilm; gweithdy ysgrifennu atgofiannol gan Jane_campbell_poet
Mehefin 26ain ‘Ydych chi wedi gweld y gorwel yn diweddar?’ dan arweiniad Vivian Ross-Smith
Gorffennaf 31ain ‘Cofleidio Llawenydd Anniben’ dan arweiniad Ren Wolfe
Awst 28ain ‘Y Arall Dirgel sy'n byw ynof’ dan arweiniad Kamila Krol
Medi 25ain ‘Yr Ymwelydd Cyson: Safbwyntiau o ymylon cymdeithas’ gydag Alisha Ahmed

Hydref 30ain ‘Natur Alcemegol: Niwroamrywiaeth ac ymarfer celf cysylltiedig wrth wneud lliw gyda phlanhigion, pridd + metelau’ dan arweiniad Kathryn John

Tachwedd 27ain "Y ffordd rydyn ni'n gweld pethau" dan arweiniad Caitlin Flood-Molyneux

 

2025
Ionawr 29ain ‘Mae’r Tir yn Cwiar’ gyda Skye Kember

Chwefror 26ain ‘Mynd yn flewog efo Celf & Rhywedd’ gyda Morgan Dowdall
Mawrth 26ain Gweithdy gyda Llinos Anwyl (I gadarnhau)

 

 

 

 

 

 

 

Menter gymdeithasol yw OYF sy’n annog amlygrwydd i bobl greadigol LHDTC+ Cymru trwy ddigwyddiadau diwylliannol cwiar yn yr ardaloedd gwledig, cyfeirlyfr ar-lein (onyourfacecollective.org) a chreu swyddi â thâl ar gyfer y gymuned ar draws Cymru.

I ddarganfod rhagor, cymerwch gip ar ein tudalen Instagram @onyourfacecollective neu ewch i www.onyourfacecollective.org

Dyddiad cau: 21/03/2025