Y manteision o gael cyfrif Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae ein swyddi ac adran newyddion (yn bennaf) yn cynnwys deunydd wedi ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr. Hynny yw, yr hyn a welwch yn yr adran hon o'r safle yn swyddi, cyfleoedd a datganiadau i'r wasg a ychwanegwyd gan sefydliadau o fewn maes y celfyddydau.
Os oes gennych swydd, cyfle ynteu ddatganiad i'r wasg sy'n ymwneud â’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yna medrwch ymuno â’r gwasanaeth a chyflwyno eich gwybodaeth yma, nawr.
Ga'i wybod mwy am y mathau o bethau y medraf ei gyflwyno
Swyddi neu gyfleoedd
Mae'r rhain yn swyddi neu gyfleoedd artistig sy'n ymwneud â'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Fel â phopeth ar ein safle, mae angen i’r manylion hyn gael eu cyflwyno yn ddwyieithog – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Peidiwch ag anghofio cynnwys eich manylion cyswllt, y dyddiad cau, ac unrhyw wybodaeth bellach y credwch allai fod yn ddefnyddiol i ddarpar ymgeisydd.
Datganiadau i'r wasg
A oes gennych ddatganiad dwyieithog i'r wasg ynghylch datblygiad cyffrous o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru? Gallwch gyflwyno eich stori i ni – ynghyd â llun o ansawdd uchel – a byddwn yn rhoi llinyn mesur dros y stori cyn ei gyhoeddi ar y safle. Os nad y’ch chi’n siŵr a yw eich stori yn addas ar gyfer y safle Cyngor Celfyddydau Cymru, cysylltwch â ni i gael gair, unrhyw bryd.
Ymwadiad
Gall pobl eraill greu cyfrif ac uwchlwytho gwybodaeth i'r adran 'Swyddi a newyddion' i bobl eraill ei gweld a'i defnyddio. Gall fod yn y wybodaeth safbwynt nad yw’r Cyngor yn cytuno ag ef o reidrwydd. Felly, peidiwch â chymryd ein bod yn cymeradwyo’r safbwynt. Nid ydym ni ychwaith yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw ddeunydd neu wefan y mae modd eu cyrraedd drwy ddolen mae rhywun arall wedi’i rhoi yno.
Canllawiau ychwanegol
Peidiwch â chyflwyno cynnwys sy’n:
• tramgwyddo neu'n amharchu pobl
• anghywir neu'n gamarweiniol
• cynnwys deunydd gan rywun arall â hawlfraint heb gydsyniad y person
• cynnwys firysau, ffeiliau llwgr neu unrhyw beth maleisus
Rydym ni’n cadw'r hawl i wrthod neu dynnu'n ôl gynnwys sy’n cynnwys yr uchod.