Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer ein comisiynau perfformiad unigol blynyddol, The Shape of Things to Come 2025

Dyma bedwaredd flwyddyn y gyfres gomisiwn llawrydd hon, a ddechreuodd yn 2022 fel Solo Duets for the Future. Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig.

Byddwn yn newid ychydig ar y brîff eleni – yn hytrach na gofyn i chi ddewis o ystod eang o ardaloedd perfformio, byddwn yn cyflwyno ychydig o gyfyngiadau ffurfiol (neu “rhwystrau” – meddyliwch am Lars Von Trier / Jørgen Leth, ond yn llai creulon a heriol).

Mae’n rhaid i berfformiadau ddefnyddio’r YSTAFELL.

Bydd Yr Ystafell yn set ddiaddurn wedi ei hadeiladu ar y llwyfan, gyda phedair wal ac amrywiaeth o ffenestri. Bydd yn mesur tua 4m x 4m. Bydd gan yr ystafell sawl pwynt mynediad. Mae’n bosib addasu’r ystafell i gyd-fynd â’ch syniad perfformiad, gan ddefnyddio adnoddau set gwahanol, paentio, dewisiadau goleuo, ac amrywiaeth o osodiadau cynulleidfa. Byddwch yn cael dewis o ddetholiad o wrthrychau a dodrefn. 

Byddwn yn chwilio am bum darn sy’n defnyddio’r set mewn ffyrdd gwahanol gan ddefnyddio eich dychymyg. Mae croeso i chi seilio’r perfformiad ar unrhyw beth o’ch dewis, ond (yr un fath â thymhorau blaenorol) byddwn yn chwilio am waith sy’n agored yn hytrach na’n fewnol, sy’n cyfathrebu â chynulleidfaoedd, ac sy’n edrych tuag at y dyfodol yn hytrach na datglymu’r gorffennol.

Bydd pob comisiwn yn para pythefnos. Ffi artist £1500 + treuliau.

CYDRADDOLDEB / AMRYWIAETH
Er mwyn lleihau rhwystrau systemig i gyfleoedd proffesiynol a sicrhau llu o leisiau a safbwyntiau, cedwir y comisiynau canlynol ar gyfer artistiaid sydd â’r profiadau bywyd neu’r hunaniaethau canlynol:

  • Bydd o leiaf un comisiwn yn cael ei ddyfarnu i artistiaid Du, Asiaidd neu Dreftadaeth Ddeuol.
  • Bydd o leiaf un comisiwn yn cael ei neilltuo ar gyfer artistiaid sy’n creu gwaith yn Gymraeg (neu’n ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn flaenllaw).
  • Rhoddir o leiaf un comisiwn yn cael ei ddyfarnu i artist b/Byddar neu anabl.

    Cewch gyflwyno syniad unrhyw bryd o 01 Chwefror 2025 ymlaen. Rydym yn adolygu a llunio rhestr fer wrth i geisiadau gael eu cyflwyno, felly cyflwynwch eich cais cyn gynted ag yr ydych yn barod. Y dyddiad cau anffurfiol yw 08 Mawrth. Fodd bynnag, efallai bydd ceisiadau ar agor tu hwnt i’r dyddiad cau yn ôl ein disgresiwn.
     

Dyddiad cau: 08/03/2025