Trosolwg

Hoffai Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru gomisiynu 4 artist neu berson creadigol i greu gwaith sy’n ymateb yn greadigol i Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025.

Ym mis Ebrill 2025, bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn cyhoeddi adroddiad arwyddocaol, Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol. Cynhyrchir yr adroddiad bob pum mlynedd, flwyddyn cyn etholiad y Senedd. Mae’n rhoi ei gyngor i lunwyr polisi ynghylch pa gamau y mae angen eu cymryd i helpu Cymru i gyflawni ei nodau hirdymor – y saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Credwn y gall artistiaid a phobl greadigol ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad i siapio datblygiad a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, i gefnogi arloesedd ym mhob maes o fywyd cyhoeddus. Rydym felly yn chwilio am artistiaid a phobl greadigol i greu gwaith yn ymwneud â’r materion a nodir yn yr adroddiad.

Ynghylch Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Bydd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â 5 cenhadaeth ein strategaeth, Cymru Can. Dyma nhw:

  • Gweithredu ac Effaith: sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
  • Hinsawdd a Natur: sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni eu nodau sero net a natur gadarnhaol erbyn 2030. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn arwain camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd gan gynnwys addasu, mewn ffordd sy’n lleihau anghydraddoldebau ac yn sicrhau’r buddion mwyaf posibl i bobl a chymunedau ledled Cymru.
  • Iechyd a Llesiant: i hwyluso trawsnewid yn y ffordd yr ydym yn cadw pobl yn iach, gyda mwy o ffocws ar atal a’r tymor hir. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn cydweithio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
  • Diwylliant a’r Gymraeg: i atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn gwneud y newidiadau brys sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, gwella gwead cymunedau, a hyrwyddo aml-ddiwylliannedd a’r Gymraeg.
  • Economi Llesiant: i helpu i drosglwyddo Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf. O ganlyniad, mae llywodraethau ar bob lefel, busnesau a chymunedau yn gwneud i hyn ddigwydd.

Mae Cymru Can hefyd yn cynnwys meysydd ffocws pwysig eraill sy’n torri ar draws cenadaethau. Un maes o’r fath yw bwyd, gan ein bod yn cydnabod bod mynediad cyfartal at fwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy yn hanfodol i gyflawni’r nodau llesiant, a bod anghydraddoldeb bwyd a thlodi bwyd yn cael effaith fawr ar gymunedau.

Hoffem gomisiynu artistiaid sy’n cael eu hysbrydoli i ymgysylltu â’r materion a godwyd yn un neu fwy o’r meysydd hyn. Nid ydym yn disgwyl i chi fod yn arbenigwr na chael yr holl atebion – dim ond i gael syniad o sut y gallech ddefnyddio eich creadigrwydd i gael eich ysbrydoli gan anghenion cenedlaethau’r dyfodol a chan y cenadaethau hyn, fel sbardun ar gyfer eich gwaith creadigol eich hun.

Rydym yn croesawu safbwyntiau sy’n herio ac yn cynnig ffyrdd amgen o feddwl yn seiliedig ar brofiadau byd go iawn.

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, dyma rai cwestiynau i’ch ysgogi:

  • Creu economi i Gymru sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.
    • Sut olwg fyddai ar economi sy’n rhoi llesiant pobl a’r blaned gyntaf yng Nghymru? Sut brofiad fyddai bod yn ddinesydd a/neu artist yno?
    • A all artistiaid helpu i lunio model economaidd y dyfodol?
  • Gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur gan gynnwys ymaddasu, mewn ffordd sy’n lleihau anghydraddoldebau ac yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i bobl a chymunedau ledled Cymru.
    • Sut gall y celfyddydau helpu i gynnwys pobl mewn cydweithrediad o amgylch y newid i sero net, addasu hinsawdd ac atal dirywiad bioamrywiaeth.
    • Pam fod cyfrifoldeb byd-eang a chyfiawnder hinsawdd yn berthnasol i bobl Cymru?
    • Pwy sydd wedi’u cau allan o sgyrsiau am yr argyfwng hinsawdd a natur a sut y gellir clywed y lleisiau hyn?
    • Sut mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn effeithio ar ddiwylliant a’r iaith Gymraeg?
  • Creu Cymru lle mae gan bawb gyfle cyfartal i gael bywyd iach.
    • Sut olwg fyddai ar Gymru sy’n deall ac yn gweithredu ar fodel cymdeithasol iechyd yn llawn? Sut olwg fyddai ar ein gwasanaethau cyhoeddus?
    • Sut gall y celfyddydau helpu i leihau unigrwydd/arwahanrwydd cymdeithasol a mynd i’r afael â salwch meddwl?
    • Beth yw rôl creadigrwydd wrth fynd i’r afael â’r cysylltiadau rhwng ein systemau bwyd, y sector amaethyddiaeth, cadwyni cyflenwi, iechyd, diwylliant, y Gymraeg a hunaniaeth?
  • Creu Cymru sy’n rhoi cymaint o werth ar lesiant diwylliannol ag y mae’n rhoi gwerth ar lesiant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd
    • Beth sy’n unigryw am iaith a diwylliant Cymru? Beth allwn ni ei ddysgu ganddyn nhw i ymateb i’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu?
    • Beth yw rôl diwylliant wrth fynd i’r afael â phegynnu cymdeithasol a meithrin cymunedau cydlynol, cynhwysol?

Bydd canfyddiadau drafft yr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael eu rhannu gyda’r artistiaid llwyddiannus ym mis Ionawr i gynorthwyo’r broses greadigol, ond mae’r cwestiynau hyn a’r wybodaeth a ddarperir uchod yn adlewyrchu’r materion sy’n cael eu hystyried yn yr adroddiad.

Beth fydd gofyn i chi ei wneud?

  • Cynnal cyfarfod byr ar-lein gyda chydweithwyr Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru cyn i chi ddechrau trafod eich syniad.
  • Creu gwaith sy’n ymateb yn artistig i’r materion a godwyd yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 ac sy’n helpu i gyfathrebu’r rheini i’n gwahanol gynulleidfaoedd, sef:
    • Pobl sy’n gweithio mewn cyrff cyhoeddus sy’n dod o dan gylch gorchwyl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a
    • Pobl sydd â diddordeb yng ngwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ehangach

Allbwn

Bydd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 ar ffurf adnodd hygyrch ar-lein. Gellir cyflwyno’r cynnwys creadigol mewn sawl fformat a ffurf ar gelfyddyd ond rhaid ei ddogfennu ar ffurf ddigidol a all eistedd o fewn neu ochr yn ochr â’r adnodd hwn. Er enghraifft, gellid cyflwyno’r cynnwys fel a ganlyn:

  • Animeiddiad
  • Sain (hyd at 6 munud)
  • Fideo (hyd at 6 munud)
  • Testun

Mae’r fformatau a’r canllawiau cyflwyno i’w gweld yn Atodiad A.

Bydd y gwaith a gomisiynir, gan gynnwys fideo, delweddau a thestun, yn cael ei ddefnyddio gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol mewn cyhoeddiadau, datganiadau newyddion, ar-lein, ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn cyfathrebiadau eraill sy’n ymwneud â chenhadaeth y sefydliad. Bydd hawlfraint y gwaith yn aros gyda’r artist.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflawni’r gwaith gorffenedig yw dydd Llun 3 Mawrth 2025.

Ffi

Y comisiwn ar gyfer y gwaith hwn yw £1,850, yn seiliedig ar 5 diwrnod o waith am £270 y dydd a hyd at £500 ar gyfer deunyddiau a threuliau.

Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, rhowch wybod i ni gan fod gennym gyllideb ar wahân i gefnogi hynny.
 

Dyddiad cau: 13/01/2025