Ymateb i Gasgliadau Cyfoes Cenedlaethol Cymru
Mae Oriel Davies yn gwahodd artistiaid i ymateb i waith yn y casgliadau cyfoes a gedwir yn yr Amgueddfa ac Oriel Gelf Genedlaethol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gall artistiaid o Gymru sy'n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth wneud cais. Mae’r comisiwn yn cynnwys cynhyrchu gweithgaredd hygyrch ac ymateb creadigol i waith dethol neu i artist o’r casgliad. Bydd y ddau ddarn o waith yn cael eu rhannu’n ddigidol ar wefan Oriel Davies a Celf ar y Cyd.
Mae ffi i’r artist o hyd at £1,800. Rhaid cwblhau’r gwaith erbyn 31 Mawrth 2025.
Mae'r broses ymgeisio yn cynnwys sgwrs gychwynnol gyda'r oriel, ac yna cynnig byr gan yr artist. Croesewir ceisiadau gan artistiaid mwyafrif byd-eang, artistiaid ag anableddau ac artistiaid o'r gymuned LGBTQIA+.
Dylai artistiaid sydd â diddordeb gysylltu â Kate Morgan-Clare, Cynhyrchydd Creadigol yn Oriel Davies trwy e-bost erbyn dydd Mercher 15 Ionawr. Bydd yr artist llwyddiannus yn cael ei hysbysu ddiwedd Ionawr.
Cysylltwch â kate@orieldavies.org