Mae Amgueddfa Wrecsam yn chwilio am artist cymunedol profiadol i gynhyrchu dwy faner decstilau fawr, un ar thema Wrecsam, a'r llall, pêl-droed Cymru a fydd yn hongian ochr yn ochr yn y gofod atriwm newydd yn yr amgueddfa sydd wedi'i hailddatblygu. 

Mae Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gau ar hyn o bryd ar gyfer gwaith adnewyddu, ac mae disgwyl iddi ailagor yn 2026. Mae'n cael ei thrawsnewid yn gynnig unigryw a fydd yn cyfuno amgueddfa newydd ar gyfer Wrecsam ag Amgueddfa Bêl-droed Cymru mewn un adeilad.

Manylion pellach 

Mae'r amgueddfa yn dymuno comisiynu artist i weithio ar y cyd ag amrywiaeth o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gyd-greu dau waith celf beiddgar, lliwgar a thrawiadol a allai gyrraedd cynulleidfa o 80,000 o bobl o fewn blwyddyn i’w hagor. 

Bydd comisiwn diddorol ac uchelgeisiol Brethyn Straeon yn cael ei osod yn 2026 a bydd yn rhoi cymuned a threftadaeth Wrecsam a phêl-droed Cymru wrth wraidd yr amgueddfa newydd ar unwaith.

Bydd yr artist yn gweithio gyda phedwar grŵp cymunedol yn Wrecsam a phump o bob cwr o Gymru i ddatblygu themâu pob baner. Mae partneriaethau cymunedol yn allweddol i ganlyniad y prosiect yma er mwyn sicrhau bod y canlyniad terfynol yn gynrychioliadol o Wrecsam a phêl-droed Cymru heddiw. Mae'r grwpiau cymunedol hyn eisoes wedi'u nodi, a bydd y prosiect yn cael ei gynnal ledled Cymru mewn lleoliadau sy'n gyfarwydd i gyfranogwyr. 

Rydym yn agored i syniadau gan ystod o artistiaid ac rydym yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dyddiadau allweddol  

Ar ôl ei benodi, bydd yr artist llwyddiannus yn gweithio gyda staff yr amgueddfa i drafod amserlen dderbyniol. Bydd y prosiect yn dechrau ym mis Medi 2025 ac yn gorffen ym mis Mawrth 2026, gyda'r baneri gorffenedig yn cael eu cyflwyno i'r amgueddfa ac yn barod i'w gosod erbyn mis Chwefror 2026. 

Y dyddiad cau ar gyfer y comisiwn hwn yw 18 Gorffennaf 2025.

Ffi artist 

Mae cyllideb gwerth £16,500 wedi'i dyrannu i'r prosiect hwn. Mae'r gyllideb hon yn cynnwys yr holl gostau paratoi, teithio, dosbarthu, llety ac ymgysylltu, a diwrnodau stiwdio. 

Sut i Wneud Cais

E-bostiwch ni yn museum@wrexham.gov.uk fel y gallwn e-bostio'r ddogfennaeth Cais am Ddyfynbris yn uniongyrchol atoch. 

Cysylltwch â ni drwy e-bost os hoffech drafod y comisiwn ymhellach cyn gwneud cais.

Dyddiad cau: 18/07/2025