Yn galw ar grewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i gael cyfle i ddatblygu’n greadigol drwy gyfansoddi ar gyfer côr cymunedol

Mae’r llwybr hwn yn cynnig cyfle i 5 o grewyr cerddoriaeth o Gymru ddatblygu sgiliau wrth gyfansoddi gwaith sy’n newydd ac yn unigryw ar gyfer côr cymunedol, gan wneud hynny gyda’r mentor Nathan James Dearden (sy’n gyfansoddwr/addysgwr) a Côr ABC o Aberystwyth.

Mae Côr ABC yn gweithio’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd o leiaf ddau o’r cyfansoddwyr a ddewisir yn ymrwymo i ysgrifennu gwaith yn y Gymraeg.

Mae croeso i artistiaid sy’n defnyddio dulliau arbrofol/di-nodiant wneud cais, yn ogystal â’r rhai sy’n defnyddio nodiant cerddorol safonol.

Bydd pob cyfansoddwr sy’n cymryd rhan yn cael tâl o £1,000 (yn ogystal â threuliau teithio o fewn Cymru, a llety lle bo angen).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 ganol dydd, dydd Mercher 6 Awst

 

Dyddiad cau: 06/08/2025